Mae gan denantiaethau gwahanol reolau gwahanol o ran sut y gellir cynyddu rhent. Gallwch ddarllen am y mathau gwahanol o gytundebau tenantiaeth os nad ydych yn sicr o’r math sydd gennych chi.
Gydag unrhyw denantiaeth efallai y byddai’n werth siarad â’ch landlord os yw eisiau cynyddu eich rhent, i weld a fyddai’n fodlon trafod hynny.
Os yw eich tenantiaeth yn denantiaeth cyfnod penodol, gall eich landlord ond dewis cynyddu’r rhent wedi i’r cyfnod penodol ddod i ben (yr eithriadau i hyn yw os ydych yn cytuno i’r cynnydd neu os oes cymal yn eich cytundeb sy’n nodi y bydd y rhent yn cynyddu cyn diwedd y cyfnod penodol.
Os ydych yn denant sicr neu’n denant byrddaliad sicr bydd eich landlord yn codi ‘rhent y farchnad’ arnoch. Mae hyn yn golygu bod swm y rhent sy’n rhaid i chi ei dalu yn seiliedig ar argaeledd a chost llety tebyg yn yr ardal.
Os ydych yn denant sicr, mae gennych fwy o siawns o allu dylanwadu ar amser a maint y cynnydd mewn rhent.
Os yw eich landlord eisiau cynyddu eich rhent ac rydych yn denant byrddaliad sicr, gallai hyn fod yn anoddach i’w herio. Y rheswm am hyn yw os oes gennych denantiaeth byrddaliad sicr, gall eich landlord eich troi allan yn eithaf hawdd os nad ydych yn cytuno i dalu’r rhent.
Os ydych chi’n meddwl bod cynnydd arfaethedig mewn rhent yn annheg o’i gymharu â rhent y farchnad, mae’n bosib y gallech apelio i’r Pwyllgor Asesu Rhenti (drwy’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl).