Mae aflonyddu a throi allan anghyfreithlon yn droseddau. Y gosb uchaf y gellir ei rhoi i landlord am y troseddau hyn yn Llys y Goron yw dirwy anghyfyngedig a dwy flynedd o garchar.
Beth yw aflonyddwch?
Gall aflonyddwch gan landlord tuag at denant gynnwys:
- eich bygwth er mwyn eich perswadio i adael
- trais corfforol tuag atoch
- diffodd gwasanaethau hanfodol, neu gyfyngu arnynt, fel cyflenwadau nwy, trydan neu ddŵr
- ymyrryd â’ch post
- ymweliadau rheolaidd diangen gan y landlord neu gynrychiolwyr, yn enwedig os byddant yn ymweld yn hwyr y nos neu’n ddirybudd
- mynd i’ch ystafell neu eiddo heb eich caniatâd
- atal mynediad i’r eiddo neu ran o’r eiddo
- caniatáu i’r eiddo fynd i’r fath gyflwr fel nad yw’n ddiogel i neb fyw ynddo
- gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, anabledd neu rywioldeb
Gallai’r gweithredoedd hyn a gweithredoedd eraill sy’n debygol o roi pwysau arnoch i adael eich llety fod yn gyfystyr ag aflonyddu.
Beth yw troi allan yn anghyfreithlon?
Troi tenant allan, neu ymgais i wneud hynny, heb ddilyn y drefn gyfreithiol briodol yw troi allan anghyfreithlon, mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys:
- newid y cloeon pan nad ydych yn yr eiddo
- codi ofn arnoch, eich bygwth neu eich gorfodi i adael
- eich taflu allan yn bersonol
Os yw eich landlord yn eich atal rhag mynd i rannau arbennig o’ch cartref (er enghraifft cloi drws y toiled neu rwystro mynediad i ran o’r adeilad y mae gennych hawl i fynd iddi) mae hyn hefyd yn gyfystyr â throi allan anghyfreithlon.
Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod eich landlord yn eich aflonyddu neu’n bygwth eich troi allan yn anghyfreithlon?
Ceisiwch gadw cofnod o unrhyw ddigwyddiad – efallai y bydd angen y dystiolaeth hon os yw’r achos yn mynd ger bron y llys.
Dylech ffonio’r heddlu os yw eich landlord yn ceisio eich gorfodi o’ch cartref.
Mae gwefan Shelter Cymru yn darparu canllaw byr ar gamau ymarferol y gallwch eu cymryd os ydych yn dioddef aflonyddwch neu os yw eich landlord yn bygwth eich troi allan (yn cynnwys beth i gadw cofnod ohono).