Fel tenant preifat, mae gennych chi gyfrifoldebau pan rydych yn mynd i gytundeb tenantiaeth ac yn symud i mewn i eiddo.
Mae eich cyfrifoldebau fel tenant preifat yn cynnwys:
- talu eich rhent ar amser, hyd yn oed os oes atgyweiriadau angen eu gwneud neu os ydych mewn dadl â’ch landlord
- talu biliau megis biliau trydan neu nwy ar amser, os nad yw’r rhain wedi’u cynnwys yn eich rhent (ni fydd eich landlord yn gyfrifol am dalu i ailgysylltu eich trydan/nwy os yw’r rhain wedi cael eu datgysylltu oherwydd diffyg taliadau)
- rhaid i chi ofalu nad ydych yn ymddwyn mewn modd anghymdeithasol a allai darfu ar eich cymdogion (yn ogystal â sicrhau bod unrhyw aelod o’r teulu neu ymwelwyr i’ch cartref hefyd yn ymddwyn yn briodol).
Mae hefyd yn gyfrifoldeb arnoch i ddefnyddio’r eiddo’n gyfrifol a gofalu amdano, mae hyn yn cynnwys:
- sicrhau nad ydych chi, eich teulu, neu unrhyw ymwelydd yn achosi difrod i’r eiddo mewn unrhyw ffordd (oni bai drwy draul a gwisgo teg)
- dweud wrth eich landlord am unrhyw waith atgyweirio sydd angen ei wneud a darparu mynediad i’r eiddo er mwyn cynnal y gwaith hwn (os ydych wedi derbyn rhybudd rhesymol)
- cael gwared ar sbwriel yn rheolaidd a pheidio â gadael iddo gronni
- dadflocio sinc sydd wedi blocio
- defnyddio unrhyw osodiadau a ffitiadau yn briodol (er enghraifft, dylid osgoi fflysio eitemau anaddas i lawr y toiled gan y gallai hyn achosi rhwystrau)
- lleihau’r risg o bibellau’n torri os ydych yn mynd i ffwrdd yn ystod cyfnod oer
Beth allai ddigwydd os nad wyf yn bodloni fy nghyfrifoldebau fel tenant?
Os nad ydych yn bodloni eich cyfrifoldebau, yna gallech gael eich troi allan o’ch cartref.
Ni ddylech dorri unrhyw un o’r telerau teg sydd wedi’u nodi yn eich cytundeb tenantiaeth (er enghraifft y telerau a nodwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid anwes, ysmygu yn yr eiddo, difrod neu ddefnydd o’r garej).
Os nad ydych yn gofalu am yr eiddo, gallai’r landlord geisio meddiant o’r eiddo ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw waith atgyweirio sydd angen ei wneud (naill ai drwy dynnu’r arian o’ch blaendal neu drwy system y llysoedd).
Os nad ydych yn ymddwyn yn rhesymol, gallech chi gael eich troi allan ac fe allai gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol gael ei wneud yn eich erbyn.
Mae gennych hefyd gyfrifoldeb i ddod â’r denantiaeth i ben yn y ffordd gywir. Os nad ydych yn dod â’r denantiaeth i ben yn y ffordd gywir, neu mewn cytundeb (ysgrifenedig) gyda’r landlord, gallech fod yn gyfrifol am dalu’r rhent hyd yn oed os nad ydych yn byw yn yr eiddo.