Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phreswylwyr a’u cefnogi i gymryd rhan mewn materion tai a’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
Rydym ni’n cydnabod bod angen i gyfranogiad effeithiol gynnwys amrywiaeth eang o bobl yn cymryd rhan mewn llawer o wahanol weithgareddau.
Pam ddylwn i gymryd rhan?
Trwy rannu eich barn ynglŷn â sut yr ydych yn meddwl y gallem ddarparu gwell gwasanaethau tai gallech fod o gymorth uniongyrchol i ysgogi’r newidiadau yr ydych yn credu sydd eu hangen yn eich cymuned chi.
Ein nod yn y pen draw yw annog mwy o breswylwyr, lesddeiliaid a budd-ddeiliaid i gymryd rhan weithredol yn ein proses gwneud penderfyniadau.
Ymgynghori â chi am ein perfformiad a’n cynlluniau
Yn unol â’r gyfraith, mae’n rhaid i ni ymgynghori â chi ynghylch:
- Unrhyw addasiadau yr ydym ni’n bwriadu eu gwneud i’ch Contract Meddiannaeth.
- Unrhyw waith moderneiddio neu welliannau yr ydym ni’n bwriadu eu gwneud i’ch cartref.
- Unrhyw newidiadau yn y ffordd yr ydym yn rheoli’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i chi e.e. amseroedd ymateb i geisiadau am waith atgyweirio neu gyfrifoldebau atgyweirio’r deiliad contract.
Efallai y byddwn ni’n ymgynghori â chi drwy:
- Ymweliadau cartref
- Llythyrau
- Arolygon
- Cyfarfodydd, diwrnodau agored neu arddangosfeydd.
- Ein newyddlen ‘Trafodion Tai’
- Platfformau’r cyfryngau cymdeithasol
Sut alla i gymryd rhan?
Rydym yn deall y gall dulliau arferol o gyfranogiad tenantiaid (e.e. bod yn aelod o bwyllgor) gymryd llawer iawn o amser ac egni. Mae hyn yn addas ar gyfer rhai pobl, ond os ydych chi’n rhy brysur, neu os ydych chi am rannu eich barn am bynciau penodol yn unig o bryd i’w gilydd, mae modd i chi gymryd rhan o hyd.
Sut i gymryd rhan
Mae llawer o ffyrdd gwahanol i gymryd rhan:
- Grwpiau gwella gwasanaeth
- Siopa cudd / archwiliadau deiliaid contract
- Digwyddiadau deiliaid contract
- Cronfa ddata cyfranogiad deiliaid contract
Gallech hefyd gymryd rhan trwy ymuno â’r grwpiau canlynol...
Gallai cymryd rhan hefyd olygu rhoi gwybod i ni beth yw eich barn ar bwnc penodol drwy lenwi a dychwelyd holiadur neu arolwg. Rydym yn gofyn am adborth ar bopeth, o newidiadau polisi mawr i’n gwasanaethau dydd i ddydd.
Fel aelod o’r cyhoedd, mae gennych hawl i fynd i wrando ar gyfarfodydd ein Bwrdd Gweithredol a’n Pwyllgor Craffu, lle mae Cynghorwyr yn penderfynu sut mae’r gwasanaeth tai yn cael ei redeg a’i reoli.
Os hoffech chi gael copi o’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Lesddeiliad, gallwch wneud cais amdani gan ein Swyddog Prosiect Cyfranogiad Tenantiaid.