Gallwn eich helpu i ymgartrefu drwy gynnig cyngor ynglŷn â sut i ddod o hyd i gyflenwyr yn ogystal â’ch helpu i ddod o hyd i ddodrefn.
Gallwn roi cymorth ariannol i chi, gan gynnwys cyngor mewn perthynas â sut i ymdrin â rhent a biliau. Gallwch hefyd dderbyn cyngor ar yswiriant a gwybodaeth am ddiogelwch, a sut i gadw eich cytundeb tenantiaeth.
Os ydych chi’n bryderus am deimlo’n ynysig, gallwn eich cefnogi i gymryd rhan mewn addysg/dysgu neu gyflogaeth/gwaith gwirfoddol er mwyn eich helpu i deimlo’n rhan o’ch cymuned.
Gallwch hefyd dderbyn cyngor os ydych chi'n bryderus am eich lles (iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol).
Nid yw gweithwyr cefnogi tenantiaeth yn gallu rhoi cymorth arbenigol uniongyrchol i chi â materion megis problemau iechyd, iechyd meddwl, dyledion neu ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol. Fodd bynnag, gallant eich cyfeirio at sefydliadau cefnogi sy'n gallu darparu cyngor arbenigol am y materion hyn. Gallant hefyd gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol neu unrhyw sefydliadau cefnogi eraill i chi lle bo angen.