Mae beiciau trydan, sgwteri trydan a byrddau hofran yn berygl tân posibl yn sgil y batris lithiwn-ïon sydd ynddynt.
Y rheswm am hyn ydi os ydi’r batris yn gorgynhesu fe allant ffrwydro neu fynd ar dân gan achosi fflamau sy’n tyfu’n gyflym a mwg eithriadol sydd yn rhyddhau nwyon peryglus allai fod yn niweidiol i chi a’ch eiddo.
Fel landlord, mae sicrhau diogelwch ein deiliaid contract ac eiddo yn bwysig i ni.
Eich cyfrifoldeb fel Deiliaid Contract y Cyngor
Sgwteri symudedd
Mae’n rhaid i chi gael caniatâd i storio a chadw sgwteri symudedd mewn eiddo sy’n perthyn i’r Cyngor. Mae hyn hefyd yn berthnasol i Ddeiliaid Contract presennol allai fod eisoes yn berchen ar sgwter symudedd.
Os ydych chi’n rhentu cartref gan y Cyngor, mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch swyddfa dai leol i gael cyngor os ydych chi’n berchen ar, neu’n ystyried cael sgwter symudedd.
Fe fyddwn ni’n gofyn i chi lenwi ffurflen gais i gael caniatâd.
Fe fyddwn ni fel arfer yn rhoi caniatâd, ar yr amod y gellir ei storio a’i wefru’n ddiogel.
Ni allwch storio sgwteri symudedd mewn ardaloedd cymunedol megis coridorau, o dan risiau neu mewn lolfeydd cymunedol.