Mae hyn ar gyfer pobl sy'n rhentu cartref gan y cyngor

Pan fydd angen i ni (Adran Dai Cyngor Wrecsam) gyfathrebu â chi drwy lythyr, gallwn wneud hynny drwy’r post neu dros e-bost.

Ein nod yw darparu gwasanaeth effeithlon, mewn modd amserol ac rydym yn bwriadu cynyddu’r defnydd o gyfathrebu electronig (e-byst) yn y dyfodol, er mwyn: 

  • Ein helpu i leihau costau postio ac argraffu 
  • Eich galluogi i dderbyn gwybodaeth yn gynt 

Ni fydd y broses newydd yn cael ei chyflwyno’n syth, ond yn hytrach gam wrth gam dros nifer o flynyddoedd. 

Er mwyn dechrau’r broses hon, mae angen i ni wybod sut yr hoffech dderbyn gohebiaeth yn y dyfodol, felly gofynnwn i chi lenwi ffurflen fer i roi gwybod i ni.

Cofiwch, os byddwch chi’n nodi eich bod yn dewis derbyn gohebiaeth dros ‘e-bost’, y cyfeiriad e-bost y byddwch chi’n ei roi fydd yr un y byddwn yn ei ddefnyddio i anfon pob gohebiaeth ar gyfer eich eiddo yn y dyfodol.

Bydd angen creu cyfrif gyda FyNghyfrif (os nad oes gennych un eisoes) er mwyn llenwi’r ffurflen isod.

Rhowch wybod sut yr hoffech i ni gysylltu â chi

Dechrau nawr