Mae ein gwasanaeth tai yn berchen ar dros 11,000 o dai cymdeithasol, y nifer mwyaf mewn unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, ac eithrio Caerdydd ac Abertawe. Mae’r stoc hwn yn cynnwys eiddo o oedrannau, siapiau a meintiau gwahanol, ac maent wedi’u hadeiladu o bob math o ddeunyddiau gwahanol.
Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru?
Cafodd Safon Ansawdd Tai Cymru ei chyflwyno gyntaf yn 2002, gan osod y safon dderbyniol isaf ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru. Cyflawnwyd y safon hon ar dai cymdeithasol yn Wrecsam trwy gwblhau rhaglen gwaith gwella gynhwysfawr cyn y dyddiad cau o fis Rhagfyr 2021.
Mae’r gwaith a wnaed wedi cynnwys:
- Gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, oni bai bod y rhai presennol eisoes yn cyrraedd y safon.
- Inswleiddio waliau allanol i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
- Rhaglen gwaith allanol i godi ffensys newydd a gwella llwybrau (a wnaed yn ôl yr angen, i sicrhau bod yr eiddo’n cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru)
Ar ôl cwblhau’r gwaith, bu i ni symud i’r cam cynnal a chadw.
Safonau diwygiedig
Ers y dyddiad cau o 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r safonau ymhellach i adlewyrchu sut mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teimlo am eu cartrefi.
Nodau allweddol y safon newydd, a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2024, yw:
- mynd i'r afael â datgarboneiddio
- gwella effeithlonrwydd dŵr
- gwella ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru fel ei fod yn cyfrannu at iechyd a lles cadarnhaol y tenantiaid
Mae’r safon ddiwygiedig a heriol ar gyfer ansawdd a chyflwr eiddo yn rhestru’r targedau canlynol a grynhowyd y bydd angen i’r holl gartrefi eu bodloni:
- Bod mewn cyflwr da
- Yn saff ac yn ddiogel
- Yn fforddiadwy i’w wresogi ac sy’n cael yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd
- Gyda cheginau ac ystafelloedd ymolchi modern
- Cyfforddus ac addas i’r sawl sy’n byw yno
- Os yw'n bosibl, gardd addas
- Os yw'n bosibl, ardal awyr agored deniadol
Y dyddiad cau newydd
Mae gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru tan 31 Mawrth 2034 i sicrhau bod eu tai cymdeithasol yn ticio'r blychau hyn ac yn bodloni'r safonau. Mae bodloni’r safon yn ddibynnol iawn ar gyllid.
Sut bydd ein gwasanaeth tai yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru?
I sicrhau bod Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei gyflawni, byddwn yn:
- Asesu cyflwr y cartrefi i nodi’r gwelliannau sydd eu hangen. Bydd hyn yn gofyn am adolygu gwybodaeth bresennol a, lle bo angen, cynnal arolygon ar gartrefi. Os oes angen ymweliad, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
- Datblygu cynllun a chyllideb drylwyr i uwchraddio cartrefi i fodloni’r safonau diwygiedig.
- Creu Llwybrau Ynni wedi’u Targedu yn seiliedig ar asesiadau cartrefi. Bydd y rhain yn nodi’r camau, y gwaith a’r amserlen sydd ei angen i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ynni, gan sicrhau gwres fforddiadwy a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
- Ymgysylltu â Deiliaid Contract i rannu cynlluniau a chasglu adborth
Sut mae’r gwaith yn cael ei ariannu
Bob blwyddyn, rydym ni’n pennu cyllideb flynyddol ar gyfer gwella tai. Daw’r arian drwy gyfuniad o incwm rhent tai cyngor, arian wedi’i fenthyca (benthyca darbodus) ac incwm o werthu tir ac eiddo mae’r cyngor yn berchen arnyn nhw.
Rydym hefyd yn derbyn Lwfans Atgyweiriadau Mawr sef grant a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i’w helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25, fe wnaethom dderbyn £7.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei wario ar gynlluniau gwella Safon Ansawdd Tai Cymru.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 byddwn yn gwario £30.8 miliwn ar welliannau Safon Ansawdd Tai Cymru.
Pa welliannau sy’n cael eu gwneud i eiddo?
Bydd ein gwasanaeth tai yn gweithio gyda nifer o gontractwyr i sicrhau bod pob agwedd ar y gwaith gwella yn cael ei wneud i safon uchel.
Bydd y gwaith canlynol yn parhau fel rhan o’r rhaglen buddsoddi cyfalaf ar gyfer 2024/25:
- ailosod toi (a fydd yn parhau fel rhan o’r cyfnod cynnal a chadw)
- gosod ffenestri a drysau newydd gyda gwydr triphlyg (rhan o’r rhaglen buddsoddi cyfalaf)
- gwaith ailwefru llawn a rhannol (a fydd yn parhau fel rhan o’r cyfnod cynnal a chadw)
- gosod systemau gwres canolog newydd (a fydd yn parhau fel rhan o’r cyfnod cynnal a chadw)
- gwneud gwelliannau i geginau ac ystafelloedd ymolchi (a fydd yn parhau fel rhan o’r cam cynnal a chadw)
- insiwleiddio waliau allanol eiddo wedi’i rendro sy’n draddodiadol yn anodd ei wresogi fel rhan o’r rhaglen ddatgarboneiddio
- gwaith ailwampio mawr ar eiddo gwag
- adleoli tenantiaid o eiddo ble gwrthodwyd SATC yn y gorffennol (bydd y rhain yn cynnwys dull ailwampio ‘tŷ cyfan’)
- rhaglen adeiladu darpariaeth barcio ar y safle ger eiddo
- plastro eiddo tenantiaid lle bydd angen gwneud gwaith ar blastr diffygiol (bydd hyn yn cynnwys edrych ar y dewisiadau gorau o ran darpariaeth, mathau o eiddo ac effeithiolrwydd cost)
- buddsoddi’n sylweddol mewn llety tai gwarchod
- gwaith allanol sylweddol a rhaglen amgylcheddol
Pryd fydd y gwaith yn cael ei wneud yn fy eiddo?
Bydd pob eiddo’n cael rhybudd ysgrifenedig ymhell cyn i unrhyw waith gwella a gynlluniwyd gael ei wneud i roi amser i chi baratoi.
A fydd y gwaith yn amharu ar fy nghartref?
Bydd gwneud gwaith gwella ar y raddfa hon yn anochel yn golygu rhywfaint o amhariad. Rydym yn deall y gall gwaith mewnol, yn enwedig gosod ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri a drysau newydd, achosi amhariad.
Rydym ni’n gobeithio y bydd gweld y cynnyrch gorffenedig yn gwneud yr holl waith yn werth chweil. Cofiwch, os oes gennych chi unrhyw bryderon, mae modd i chi siarad gyda Swyddog Cyswllt Tenantiaid.
Rôl y Swyddog Cyswllt Tenantiaid yw:
- cadw mewn cysylltiad â chi tra bod elfennau penodol o’r gwaith yn cael eu gwneud
- helpu i ateb cwestiynau sydd gennych chi
- bod yn bwynt cyswllt rhyngoch chi a’r gwasanaeth tai
Mae gan ein contractwyr hefyd eu Swyddogion Cyswllt i Breswylwyr eu hunain sydd â rôl debyg, felly bydd yna bob amser wyneb cyfeillgar y gallwch chi gysylltu â nhw tra bo'r gwaith yn cael ei wneud, pe bai unrhyw faterion yn codi.
Sut ydym ni’n monitro ansawdd y gwaith sy'n cael ei wneud?
Rhaid i bob agwedd ar y gwaith gael ei archwilio gan un o Glerciaid Gwaith y gwasanaeth tai, cyn y gellir llofnodi ei fod wedi’i gwblhau. Mae’n rhaid i'r Clerc fod yn fodlon bod y gwaith yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru cyn llofnodi’r datganiad cwblhau.
Mae ein gwasanaeth tai yn defnyddio Grwpiau Gwella Gwasanaeth, sy'n cynnwys tenantiaid etholedig, sy'n ymweld ag eiddo’n rheolaidd, yn siarad gyda thenantiaid ac yn cynnal archwiliadau 'siopwr cudd’ ar eiddo sy’n cael ei wella. Adroddir yn ôl wrth y gwasanaeth tai am yr hyn a welwyd er mwyn ein helpu i gynnal safon gwaith uchel ac ymdrin ag unrhyw faterion a allai godi.
Mae tenantiaid hefyd yn derbyn holiaduron ar ôl i bob elfen o’r gwaith gael ei chwblhau. Mae’r canlyniadau wedyn yn cael eu casglu, eu cymharu a'u dadansoddi er mwyn cynnal safon gwaith uchel drwyddi draw.
Beth yw Cynlluniau ‘Budd Cymunedol’?
Mae Llywodraeth Cymru a’n gwasanaeth tai wedi ymrwymo i sicrhau bod yr economi leol yn derbyn y gwerth mwyaf posibl o bob ceiniog sy’n cael ei gwario ar y gwaith i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.
Mae cymalau bellach wedi'u cynnwys ym mhob prif gontract, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth tai i ymrwymo i 'roi rhywbeth ychwanegol' yn ôl i'r economi leol drwy gynlluniau Budd Cymunedol.
Gall y cynlluniau gynnwys noddi prosiectau lleol fel: gerddi cymunedol a thimau chwaraeon, adnewyddu ysgolion, neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol.
Gall buddion cymunedol hefyd gynnwys cyflogi gweithwyr lleol, sefydlu cynlluniau prentisiaeth a phrynu stoc a chyflenwadau gan fusnesau lleol.