Rydym wedi bod yn gosod boeleri cyddwyso effeithlon iawn ers 2002. Yn anffodus, nid yw bob amser yn bosibl gosod y bibell ollwng cyddwyso yn fewnol a phan fyddwn wedi’i gosod yn allanol, gall rewi weithiau mewn tywydd oer iawn.
Rhoi gwybod am broblem
Os bydd angen atgyweiriad brys arnoch, dylech ein hysbysu ar unwaith.
Sut y gallaf ddweud os bydd trap/pibell ollwng cyddwyso fy moeler wedi rhewi?
Darllenwch y camau canlynol i ganfod a yw pibell allanol eich boeler cyddwyso wedi rhewi, a pha gamau i’w cymryd os yw wedi rhewi.
Cam 1: Mae’n bosibl bod trap/pibell ollwng cyddwyso eich boeler wedi rhewi os bydd pob un o’r tri datganiad hyn yn gywir.....
- mae eich boeler yn foeler cyddwyso
- mae’r tymheredd allanol yn neu wedi bod o dan y rhewbwynt
- mae eich boeler yn arddangos cod nam, neu mae’n methu â thanio
Dylech gyfeirio bob amser at gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd os ydynt gennych.
Cam 2: Os yw pob un o’r tri datganiad uchod yn wir, gallwch geisio ailgychwyn eich boeler, os oes botwm ailgychwyn arno.
Gellir gwneud hyn drwy bwyso’r botwm ‘reset’ (fydd ar banel rheoli’r boeler). Ar ôl i chi ryddhau’r botwm dylech aros am ddau neu dri munud i weld a yw’r boeler yn ail-danio.
Cam 3: Os na fydd y boeler yn ail-danio, a’i fod yn gwneud sŵn byrlymog, mae’n debygol iawn bod eich pibell gyddwyso wedi rhewi. Os na allwch glywed sŵn byrlymog dylech barhau i wirio eich pibell gyddwyso.
Cam 4: Bydd y bibell gyddwyso yn bibell blastig (du, gwyn neu lwyd) sy’n dod allan o waelod eich boeler. Efallai y bydd y pibellau wedi’u gosod o dan eich estyll. Y brif broblem yw lleoliad y bibell hon pan fydd yn dod i ben yn allanol i mewn i ddraen, pentwr pridd neu rigol.
Sut y gellir dadmer y bibell gyddwyso?
Fel tenant gallwch roi gwybod i ni am y broblem, yna byddwn yn cysylltu â’r contractwr gwasanaethu a chynnal a chadw nwy. Bydd y contractwr yn cyrraedd cyn gynted â phosibl i geisio datrys y nam.
Os na allwch aros i’r contractwr gyrraedd yna gallwch geisio dadmer y bibell eich hun. Fodd bynnag, dylech fod yn ofalus iawn wrth geisio adnabod a cheisio dadmer pibell gyddwyso eich hun, gwnewch yn siŵr...
- Eich bod ond yn ceisio dadmer pibell gyddwyso sydd ar lefel y ddaear ac sy’n hawdd ei chyrraedd i chi – ni ddylech byth geisio dadmer pibell gyddwyso sydd ar uchder heb help peiriannydd sydd wedi’i hyfforddi’n broffesiynol
- Defnyddiwch ddull diogel ac addas i ddadmer y bibell – gallwch afael mewn potel dŵr poeth, cadach sydd wedi’i wlychu â dŵr poeth neu ddefnydd gwres wedi’i gynhesu o amgylch y bibell i’w dadmer (ni ddylech byth ddefnyddio fflam noeth)
- Dechreuwch ar y darn o’r bibell sydd agosaf at y tap a gweithio i ffwrdd ohono wrth iddi ddadmer
- Ail-gychwynnwch y boeler ar ôl iddi ddadmer – gallwch wneud hyn drwy bwyso’r botwm ailgychwyn ac aros i’r boeler ail-danio.
Atal pibellau rhag byrstio a rhewi
Yn ogystal â phibellau wedi rhewi, gall tywydd oer achosi i bibellau fyrstio.
Gallwch helpu i leihau’r risg y bydd pibellau’n rhewi neu fyrstio drwy...
- cadw eich cartref mor gynnes â phosibl, hyd yn oed os ydych yn mynd allan
- lagio (h.y. inswleiddio) pibellau sydd mewn lleoedd amlwg neu ddrafftiog
- gwneud yn siŵr bod tapiau wedi’u troi i ffwrdd yn iawn, yn arbennig y peth olaf yn y nos
- cyfarwyddo eich hun â’r system cyflenwi dŵr a chanfod y brif stopfalf sy’n troi’r cyflenwad dŵr i’ch eiddo i ffwrdd.
Beth ddylwn ei wneud os bydd pibell yn byrstio?
Os bydd pibell yn byrstio dylech...
- troi’r brif stopfalf i ffwrdd
- troi’r falf stopio i ffwrdd yn y tanc storio os bydd pibell o’r tanc storio wedi byrstio, trowch bob tap dŵr poeth ymlaen i ddraenio’r system, gadael y tân i losgi allan neu droi’r system wresogi i ffwrdd hyd nes y bydd y bibell wedi byrstio wedi’i thrwsio gan blymiwr
- agor pob tap dŵr oer i ddraenio’r system os na ellir atal llif y dŵr.