Os oes gennych system gwres trydan bydd yn un sy’n defnyddio gwresogyddion storio trydan fel arfer, a elwir yn ‘Economy 7’.
Economy 7 yw’r tariff a ddefnyddir i gyflenwi trydan. Codir cyfraddau gwahanol am y trydan a ddefnyddiwch, yn ôl yr amser o’r dydd neu’r nos y caiff ei ddefnyddio. Bydd y rhan fwyaf o’r ynni sy’n cael ei gyflenwi ar gyfer gwresogi a dŵr poeth ar y gyfradd is (nos), pan fydd cost trydan yn rhatach. Codir y gyfradd uwch (dydd) ar gyfer y trydan sy’n weddill sydd ei angen at ddibenion nad ydynt yn gwresogi (coginio, smwddio, gwylio’r teledu ac yn y blaen). Mae hyn yn costio bron deirgwaith yn uwch na’r gyfradd is.
Cyflenwir dŵr poeth o silindr capasiti uchel. Mae’r silindr, sydd â thanc uwch ei ben, wedi’i inswleiddio ac mae dau wresogydd trochi wedi’u cysylltu iddo.
Mae dwy ffordd sylfaenol o ddefnyddio’r system dŵr poeth, bydd y dewis gorau i chi yn dibynnu ar eich ffordd o fyw a’ch defnydd o dŵr.