Pa un a ydych eisoes yn un o ddeiliad contract y cyngor sydd eisiau symud, neu’n gwneud cais am y tro cyntaf, mae’r holl geisiadau a dyraniadau’n cael eu rheoli gan ein Tîm Dyraniadau.

Cyfrifoldebau’r Tîm

  • prosesu ceisiadau am dai (ar lein neu ar bapur) a gyflwynir i ni (Cyngor Wrecsam, fel yr awdurdod tai lleol)
  • rheoli ein cofrestr tai a gwneud dyraniadau eiddo o’r rhestr aros hon (yn unol â’r polisi dyrannu) 
  • prosesu Ffurflenni Anghenion Arbennig ac Asesiadau Meddygol,  enwebiadau i gymdeithasau tai, ceisiadau am/dyrannu garejis y cyngor
  • prosesu’r holl geisiadau garej (ar-lein neu ar bapur) a gyflwynir i ni (Cyngor Wrecsam, fel yr awdurdod tai lleol)
  • rheoli ein cofrestri tai a garej a gwneud dyraniadau eiddo o’n rhestri aros (yn unol â pholisi a gweithdrefnau dyrannu) 
  • prosesu’r holl enwebiadau i Gymdeithasau Tai o’n rhestr aros (mwy o wybodaeth: dewisiadau tai eraill)

Cysylltu â'r Tîm

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gais am dŷ  (darllenwch y canllawiau ar wneud cais am dŷ yn gyntaf rhag ofn y bydd hyn yn ateb unrhyw un o’ch cwestiynau):

E-bost: Allocationsteam@wrexham.gov.uk
Rhif ffôn: 01978 292068

Cyfeiriad

Tîm Dyraniadau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam  
Stryt y Lampint, 
Wrecsam 
LL11 1AR

Yn ein swyddfeydd yn Stryt y Lampint mae derbynfa lle gallwn roi gwasanaeth i unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am dŷ wyneb yn wyneb neu roi cymorth wyneb yn wyneb i’r rhai hynny sydd angen cymorth tai ar frys.

Mae’r dderbynfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am - 4pm drwy apwyntiad yn unig.

I weld aelod o’r tîm dyraniadau’n bersonol bydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad. Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i drefnu hyn.

Mae’r ddau dîm yn gweithio’n agos â’i gilydd, ond os oes arnoch angen llety ar frys neu os oes gennych argyfwng tai rydym yn argymell o hyd eich bod yn cysylltu â’r Tîm Opsiynau Tai.