Cymorth Gwelliant Cartref ac Eiddo
Os ydych yn ystyried gwella safon eich cartref neu eiddo yr ydych yn berchen arni, efallai y gallwch gael cyngor neu gymorth ariannol i’ch helpu i wneud hyn.
Benthyciadau gwelliannau i gartref/eiddo
Addasiadau Tai
Gall y rhai hynny sydd ag anabledd, salwch sydd yn cyfyngu ar fywyd, o bob oedran fod yn gymwys am gymorth i’w helpu tuag at addasu eu cartref, fel ei fod yn addas ar gyfer eu hanghenion.
Grantiau gwella adeiladu
Grant yw hwn ar gyfer adnewyddu ac ailddatblygu eiddo manwerthu a masnachol.
Mae cynllun tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn cynnig gwelliannau effeithlonrwydd ynni’r cartref am ddim os ydych yn ymgeisydd cymwys sy’n byw mewn eiddo aneffeithlon o ran ynni (yn berchen arno neu’n ei rentu’n breifat) a bod rhywun yn eich aelwyd yn derbyn budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd, neu â chyflyrau iechyd penodol.
Mae Cadw yn cynnig grantiau tuag at y gost o atgyweirio ac adfer asedau cymunedol hanesyddol, megis neuaddau pentref/cymuned, sefydliadau, llyfrgelloedd ac addoldai sydd ar agor i'w defnyddio gan y gymuned ehangach.