Os ydych yn uchelgeisiol ac yn flaengar, efallai mai Cyngor Wrecsam yw’r lle delfrydol i chi. Fel cyngor sy'n perfformio ar lefel uchel ac un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, rydym yn anelu at arloesi a rhagori ym mhopeth a wnawn.
Mae gennym weithlu o ryw 5,500 mewn amrywiaeth eang o swyddi. Rydym yn dibynnu ar ein gweithwyr i ddarparu gwasanaethau o safon uchel, ac yn gyfnewid am hynny yn cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein gweithlu dwyieithog a chroesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Fel Cyflogwr Hyderus o Ran Anabledd Ymroddedig rydym wedi ymrwymo i:
- sicrhau bod ein proses recriwtio yn gynhwysol ac yn hygyrch
- cynnig cyfweliad i bobl anabl sydd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y swydd
- rhagweld a darparu addasiadau rhesymol fel y bo angen
- cefnogi unrhyw weithiwr presennol sydd yn cael anabledd neu gyflwr iechyd hir dymor, gan eu galluogi nhw i aros mewn gwaith
Ymrwymiadau Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cynigir cyfweliad gwarantedig i gyn-filwyr, ar yr amod bod y meini prawf canlynol yn cael eu bodloni:
- y Lluoedd Arfog yw eich cyflogwr tymor hir olaf
- nid oes mwy na 3 blynedd wedi mynd heibio ers i chi adael y Lluoedd Arfog
- mae'r Cyn-filwr yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl a hysbysebir
Nid yw'r cynllun hwn yn gwarantu rôl i gyn-filwyr, gan y bydd gweithdrefnau dethol arferol y cyngor yn cael eu dilyn. Mae unrhyw benodiad yn seiliedig ar deilyngdod ac ar feini prawf yn seiliedig ar y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn.
Buddion Gweithwyr
Dyma rai o’r manteision o weithio i’r Cyngor...
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn rhan werthfawr o’r pecyn cyflog a thaliadau ar gyfer ein gweithwyr.
Deg mantais o fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol:
- Mae cyfraniadau pensiwn yn cael eu tynnu o’ch cyflog cyn treth felly rydych yn derbyn gostyngiad yn y dreth
- Dim ffioedd cudd neu ffioedd gweinyddol
- Cyfraniadau eich cyflogwr hefyd
- Dewis i dalu cyfraniadau pensiwn uwch i gynyddu eich pensiwn blynyddol neu swm cyfandaliad ar ôl ymddeol
- Gallwch ymddeol rhwng 55 a 75 mlwydd oed
- Gwarchodaeth salwch ar unrhyw oedran
- Pensiwn blynyddol yn daladwy am oes ar ôl i chi ymddeol, a bydd yn cynyddu yn unol â chostau byw bob mis Ebrill
- Opsiwn i greu cyfandaliad di-dreth ar ôl ymddeol
- Grant Marwolaeth i’w dalu i’ch anwyliaid
- Pensiwn goroeswyr yn daladwy i gymar/bartner ac unrhyw blant sy’n gymwys
Os gewch chi eich cyflogi am dri mis neu fwy, byddwch yn ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn awtomatig. Gallwch hefyd roi hwb i’ch buddiannau ymddeol drwy dalu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol.
Gweithio’n hyblyg
Rydym ni’n cydnabod bod pobl angen cydbwysedd rhwng eu hymrwymiadau gwaith a chartref ac mae’n bosibl ei bod yn well ganddynt weithio oriau a phatrymau gwaith gwahanol.
Rydym yn anelu at gynnig oriau hyblyg, gyda’r posibilrwydd o drefniadau rhannu swyddi, gweithio yn ystod y tymor neu oriau gwaith cywasgedig.
Rydym ni hefyd yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, fel gweithio o bell sydd yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng bodloni anghenion ein gweithwyr a’n cwsmeriaid.
Polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd
Gallwn helpu gweithwyr gydag ymrwymiadau gofalu a materion teuluol drwy ddarparu gwyliau i ofalu am ddibynyddion ac absenoldeb tosturiol.
Gwyliau
Mae pawb yn cael o leiaf 23 diwrnod o wyliau blynyddol, ac wedi ichi fod yn gweithio i’r Cyngor am gyfnod bydd yn cynyddu hyd uchafswm o 31 diwrnod (yn ogystal â 8 gwyliau banc y flwyddyn). Gallwch hefyd gymryd ‘diwrnodau fflecsi’ drwy weithio oriau ychwanegol er mwyn cronni amser i’w gymryd i ffwrdd o’r gwaith.
Rydym hefyd yn cynnig gwyliau ychwanegol ar gyfer cyfnodau mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth, ynghyd â buddion eraill.
Aelodaeth o undeb llafur
Mae gennym gytundebau â’r undebau llafur cenedlaethol cydnabyddedig fel y gallant gynrychioli eu haelodau.
Iechyd a Lles
Cewch fynediad at ystod hyblyg o fuddion sy’n cefnogi eich iechyd a lles. Mae’r rhain yn cynnwys cymorth gan Wasanaeth Iechyd Galwedigaethol: ‘Care First’ ein rhaglen cymorth i weithwyr ac, yn dibynnu ar hyd gwasanaeth, tâl salwch.
Hefyd ar gael i chi mae gostyngiadau manwerthu a hamdden, offer i gefnogi cyflwr ariannol a chynllun beicio i’r gwaith drwy gynnig Gwobrau Cyngor Wrecsam.
Aelodaeth hamdden
Gallwch gael gostyngiad wrth ymaelodi â rhai o’n campfeydd a chanolfannau hamdden lleol.
Dysgu, Hyfforddi a Datblygu
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu, hyfforddi a datblygu fel bod gennych yr hyder, sgiliau a’r wybodaeth i weithio’n effeithiol a chyrraedd eich llawn botensial.
Ein hathroniaeth yw cefnogi Wrecsam a galluogi pawb i gyflawni eu potensial, ffynnu a chyflawni lles o safon uchel. Mae hynny’n wir am ein gweithlu hefyd.
Os hoffech weithio gyda ni, edrychwch ar ein swyddi gwag i weld a oes unrhyw swyddi addas i chi.