Yng Nghyngor Wrecsam rydym yn gweithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus i gyflwyno Caru Cymru, y fenter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff (gyda bob awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan).

Nod y prosiect Caru Cymru yw ysbrydoli pawb i gymryd camau a gofalu am yr amgylchedd.

Y weledigaeth ar gyfer Caru Cymru yw y bydd gwneud y peth iawn yn dod yn ail natur i bobl, o fynd â sbwriel adref a glanhau ar ôl eu cŵn, i ailgylchu wrth fynd o le i le ac ailddefnyddio a thrwsio.

Hybiau codi sbwriel

Mae llawer o fannau codi sbwriel yn weithredol o amgylch Wrecsam ble gallwch fenthyg offer am ddim, i gefnogi’r ymgyrch.

Mae’r offer codi sbwriel y gallwch ei fenthyg yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau gwyrdd a chylchynau sbwriel i gadw’r bagiau ar agor.

Mae defnyddwyr hefyd wedi eu hyswirio wrth ddefnyddio’r offer ar yswiriant Cadwch Gymru'n Daclus.

Benthyca offer

Gallwch gysylltu â’ch hyb agosaf i drefnu dyddiad ac amser i gasglu pecyn am ddim. Gallwch fenthyg un codwr sbwriel i chi eich hun neu hyd at 20 (yn dibynnu ar faint yr hybiau) ar gyfer gwahanol gyfnodau (er enghraifft awr neu ddeuddydd) cyn belled â’ch bod yn dychwelyd yr eitemau erbyn y dyddiad a gytunwyd yn eu cyflwr gwreiddiol.

Bydd aelod o staff yn egluro’r broses a gofyn i chi lenwi ffurflen o flaen llaw a’i chwblhau ar ôl codi’r sbwriel.

Creu hyb

Os oes gennych ddiddordeb mewn creu hyb yn eich lleoliad/adeilad, neu’n gwybod am rywle addas, yna cysylltwch.

Mae’r hybiau un ai yn agored i’r cyhoedd ac wedi eu staffio gyda man storio addas, neu’n gallu cael eu staffio pan fo offer yn cael eu benthyca gyda man storio addas.

Byddai’r hyb yn cael ei gyflwyno’n swyddogol pan fydd popeth wedi ei sefydlu.

Pecynnau

Mae dau faint o becynnau ar gael; pecyn o 10 neu 20 codwr sbwriel, siacedi llachar, bagiau gwyrdd a chylchynau i ddal y bagiau ar agor. Mae’r ddau faint yn dod mewn bag ynghyd ag ychydig o focsys o fagiau felly nid oes angen i’r man storio fod yn fawr (cwpwrdd y gellir ei gloi er enghraifft).

Bydd y swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn gallu darparu bagiau am ddim ar gais.

Y System Epicollect

Mae’r swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn darparu hyfforddiant i staff yr hyb cyn agor sy’n eich gosod ar system syml o’r enw Epicollect. Gan ddefnyddio’r ffurflenni a lenwyd gan y rhai sy’n benthyca’r offer, rhaid i chi ddefnyddio Epicollect i gofnodi sawl bag a gesglir ac o ble.

Mae’r broses gofnodi yn cymryd tua 5 munud, yna gallwn ei ddefnyddio i fapio ardaloedd o’r sir ble codwyd sbwriel a gan bwy.

Mannau Di Sbwriel

Gall busnesau ac ysgolion ‘fabwysiadu’ ardal sy’n lleol iddynt a helpu i’w chadw yn lân trwy godi sbwriel yn rheolaidd.
Rhoddir pecynnau codi sbwriel am ddim i ysgolion pan fyddant yn cofrestru. Mae’r pecynnau yn cynnwys:

  • pecyn o 5 neu 10 codwr sbwriel
  • siacedi llachar 
  • cylchynau i’r bagiau 
  • sachau gwyrdd neu goch ar gyfer y codwyr sbwriel

Gallwch hefyd ofyn am offer mewn maint llai, i blant iau.

Bydd adnoddau digidol am ddim ar gael i hyrwyddo eich statws newydd. Bydd y Swyddog prosiect Cadwch Gymru'n Daclus a Swyddog Caru Cymru Wrecsam hefyd yn gallu rhoi cefnogaeth a hyrwyddo eich statws. 

Bydd y swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn gosod eich ysgol/busnes ar ein system gofnodi ble fydd angen i chi gofnodi eich gweithgareddau codi sbwriel trwy’r ap Epicollect am ddim (neu wefan) a gallu rhannu’r wybodaeth hon ar gyfer cyhoeddusrwydd ac i ddarparu tystiolaeth ar gyfer unrhyw gyllid. 

Dyletswydd Gofal

Mae gan bawb ‘Ddyletswydd Gofal’ i sicrhau fod ein gwastraff yn cael ei waredu yn gyfrifol ac yn ddiogel. Os ydych yn methu â bodloni’r ddyletswydd gofal hon, gallech gael rhybudd cosb benodedig o £300 - neu ddirwy heb gyfyngiad os ydych yn cael eich erlyn.

Pan fydd masnachwr yn mynd a’ch gwastraff cartref mae yna’n dod yn wastraff masnachol - gan olygu na allant fynd ag o i ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref Wrecsam. Mae angen mynd a gwastraff masnachol i safle gwastraff dynodedig bob amser.

Cofiwch y gallwch fynd a’ch gwastraff cartref eich hun i’ch canolfan ailgylchu gwastraff cartref am ddim. Gallwch ofyn am gasgliad eitemau swmpus ar gyfer rhai mathau o eitemau sy’n rhy fawr neu’n rhy drwm ar gyfer y casgliadau bin arferol.

Os ydych yn penderfynu mynd at fasnachwr dylech ddilyn y camau hyn:

Dod o hyd i gludydd gwastraff ag enw da

Sicrhewch eich bod yn cymryd cyfrifoldeb am eich sbwriel eich hun trwy ddod o hyd i gludydd gwastraff sydd ag enw da i gymryd eich gwastraff cartref. Mae nifer o gludwyr gwastraff yn tipio’n anghyfreithlon ar ein strydoedd (dysgwch fwy am y pwnc hwn ar ein tudalen tipio anghyfreithlon).

Fel deiliad tŷ gallech gael dirwy os deir o hyd i’ch gwastraff wedi ei adael.

Bydd gan fasnachwyr cofrestredig rif trwydded cludydd gwastraff, fodd bynnag nid yw cael trwydded yn gwarantu y byddent yn gadael eich gwastraff yn gyfrifol.

Mae nifer cynyddol o unigolion yn dangos trwydded cludydd gwastraff, ond dal yn tipio gwastraff yn anghyfreithlon ar draws y fwrdeistref sirol.

Rydym yn argymell defnyddio cwmni sefydledig sydd ag adolygiadau da. Byddwch yn wyliadwrus o unigolion yn cynnig gwasanaethau symud rhad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Beth i’w wneud pan fydd y cludydd gwastraff yn cyrraedd

1. Cadarnhau rhif trwydded y cludydd gwastraff

Bydd y rhif yn dechrau gyda ‘CBD’ ac yn diweddu gyda 1 - 6 rhif.

Gofynnwch am y rhif hwn ac edrychwch amdano ar ‘gofrestr cludwyr gwastraff, broceriaid a delwyr’ Cyfoeth Naturiol Cymru.

2.  Cymryd nodiadau

Sicrhewch eich bod yn ysgrifennu/cofnodi eu henw (neu enw’r busnes), math o gerbyd, rhif cofrestru cerbyd a’r dyddiad y cymerwyd eich gwastraff. 

3. Gofynnwch iddynt ble mae eich gwastraff yn mynd 

Os ydych yn poeni nad yw’r masnachwr am gael gwared ar eich gwastraff yn gyfreithiol yna gallwch ffonio’r heddlu (di-argyfwng) ar 101 neu Crimestoppers ar 0800 555 111.

Baw Cŵn

Gadael olion pawennau yn unig

Mae cŵn yn y DU yn cynhyrchu tua 1000 tunnell o ysgarthion bob dydd ac mae baw ci ar dop rhestr pobl o bryderon ynghylch gwastraff ar y strydoedd.

Yn ogystal â chario bygiau, a allai arwain at haint, asthma a hyd yn oed dallineb, gall pob math o fwydod a bacteria fyw mewn pridd ymhell ar ôl i’r baw ci bydru.

Mae Toxocara T.Canis yn haint a achosir gan barasitiaid llyngyr main, a all ledaenu o gŵn i fodau dynol trwy ysgarthion sydd wedi eu heintio. Mae plant yn fwyaf tebygol o gael haint wrth chwarae mewn parciau a chaeau chwarae.

Mae Gorchymyn Rheoli Cŵn yn weithredol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, i reoli ymdriniaeth ac ymddygiad cŵn.

Mae’r gorchmynion yn trin baw cŵn, ac yn gwahardd cŵn o fannau chwarae plant, caeau chwaraeon a lawntiau bowlio.

Cyfrifoldeb Perchennog Ci

Yn ôl y gyfraith, os ydych yn berchennog ci/yn trin ci rhaid i chi godi’r baw a adewir gan eich ci mewn mannau cyhoeddus. Os nad ydych, gallech gael rhybudd cosb benodedig o £75 (a roddir yn lle erlyn yn y llys).

Mae glanhau ar ôl eich ci yn hawdd, ac nid yw ysgarthion ffres yn heintus. Er fod nifer o finiau baw ci o gwmpas, gellir hefyd rhoi baw ci mewn bag yn ein biniau sbwriel cyffredinol. Os nad oes bin gerllaw, dylid cael gwared ag o yn gyfrifol pan fyddwch yn ôl gartref.

Mae’n drosedd i beidio â chael rhywbeth gyda chi i gael gwared â baw ci wrth gerdded eich ci.

Dweud ynglŷn â baw ci

Gallwch ddweud ynglŷn â baw ci gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Dechreuwch rŵan

Dolenni perthnasol