Mae’r Grant Cymorth Tai yn rhaglen grant ymyrraeth gynnar sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen yn darparu cymorth hanfodol i bobl sydd mewn amgylchiadau anodd. Sefydlwyd y rhaglen i helpu rhai o bobl fwyaf diamddiffyn Cymru er mwyn iddyn nhw fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.

Ynglŷn â’r Grant Cymorth Tai  

Mae’r rhaglen grant yn cefnogi gweithgarwch sy’n atal pobl rhag mynd yn ddigartref, yn sefydlogi eu sefyllfa o ran tai ac yn helpu pobl a allai fynd yn ddigartref i ganfod a chadw llety. 

Dydi’r grant ddim yn ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd. Yn hytrach mae gwasanaethau’r Grant Cymorth Tai yn ategu gwasanaethau statudol a ddarperir gan awdurdodau – i helpu pobl fyw yn y cartrefi cywir ac i dderbyn y cymorth cywir i lwyddo.  

Nod y gefnogaeth ydi helpu pobl ddiamddiffyn i ddelio â’r problemau sydd yn eu hwynebu. Gall y rhain gynnwys materion yn ymwneud â dyledion, cyflogaeth, rheoli tenantiaeth, camddefnyddio sylweddau, trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol a materion iechyd meddwl. 

Darperir y cymorth yn seiliedig ar amgylchiadau’r unigolyn a gall eu helpu i:

  • Fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau neu faterion eraill 
  • Gwella iechyd a lles 
  • Derbyn gwaith neu hyfforddiant neu baratoi ar gyfer hynny 

Mae’ rhaglen yn ein helpu ni i gyflawni ein dyletswyddau dan Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n canolbwyntio ar atal digartrefedd.  

Mae hefyd yn lleihau neu’n atal yr angen am ymyriadau gan wasanaethau cyhoeddus eraill – fel y GIG a/neu ofal cymdeithasol, sy’n aml yn ddrytach.  

Pa wasanaethau cymorth sydd ar gael? 

Sut i ymgeisio

Os hoffech chi ofyn am gefnogaeth yn ymwneud â thai, gallwch gwblhau ein ffurflen atgyfeirio: 

Dechrau rŵan

Fel arall fe allwch chi ofyn i’ch swyddog tai, gweithiwr cefnogi, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol wneud cais ar eich rhan.