Microsglodynnu
Prynwyr cŵn bach
Mae’n rhaid i chi sicrhau fod y bridiwr wedi microsglodynnu’r ci bach ac wedi ei gofrestru gyda chronfa ddata microsglodyn a gymeradwywyd, cyn i chi fynd â’r ci bach adref. Gofynnwch am waith papur i brofi eu bod wedi gwneud hyn, gan y gallai camau gorfodi gael eu cymryd yn eich erbyn os y canfyddir yn ddiweddarach nad yw eich ci wedi ei ficrosglodynnu.
Perchnogion cŵn
Fel perchennog ci mae’n rhaid i chi sicrhau fod:
- eich ci wedi ei ficrosglodynnu gan filfeddyg proffesiynol neu gan fewnblannwr sydd wedi derbyn hyfforddiant sydd wedi ei gymeradwyo gan y llywodraeth.
- eich bod wedi cofrestru gyda chronfa ddata microsglodyn a gymeradwywyd
- eich bod yn sicrhau fod y manylion yn gyfredol gyda darparwr cronfa ddata a gymeradwywyd.
Mae’n rhaid i gŵn bach fod wedi’u microsglodynnu a’u cofrestru gyda chronfa ddata microsglodyn a gymeradwywyd cyn eu bod yn 8 wythnos oed.
Coleri a thagiau
Fel perchennog ci mae’n rhaid i chi sicrhau fod eich ci yn gwisgo coler a thag adnabod gyda’ch manylion cyswllt cyfredol wedi eu hysgrifennu arno - pan fo ar briffordd neu mewn lle cyhoeddus.
Mae’n rhaid i fanylion cyswllt gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad (gan gynnwys cod post). Mae cynnwys rhif ffôn yn ddewisol.