Cofiwch anfon e-bost at Childcaretraining@wrexham.gov.uk i sicrhau bod lle ar y cwrs cyn talu.

Manylion y cwrs: Mae’r hyfforddiant amddiffyn plant y mae’n rhaid i ymarferwyr ei gwblhau bellach yn hyfforddiant diogelu plant ac oedolion ar y cyd sy’n cael ei gynnal gan Groundwork Gogledd Cymru / Tîm Gofal Plant Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam. 

Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer staff y blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd yn y gymhareb 1 aelod o staff i bob 10 plentyn a nodir gan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol sydd newydd eu diweddaru.

Mae’r cyrsiau canolraddol Diogelu Plant yn helpu i wella gwybodaeth bresennol am ddiogelu ac addysgu mwy am yr hyn sy’n rhan o’r broses ddiogelu. Mae’r cwrs yn dangos sut i adnabod camdriniaeth a rhoi gwybod am bryderon yn ogystal â dysgu mwy am y strwythur diogelu, adnabod risgiau a’r hyn sy’n digwydd ar ôl gwneud atgyfeiriad i ofal cymdeithasol.

Swyddi Gofynnol

Gweithwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol â phlant.

Mae enghreifftiau’n cynnwys (nid yw’n rhestr gyflawn):

  • Cynorthwy-ydd Gofal Plant
  • Cynorthwywyr Meithrin Dan Hyfforddiant
  • Cynorthwywyr Meithrin
  • Arweinwyr Ystafell Meithrin 
  • Rheolwyr Cynorthwyol
  • Gweithiwr Chwarae
  • Gyrrwr Cludiant 
  • Gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth)

Mae’n rhaid bodloni’r holl ofynion newydd yn ymwneud â hyfforddiant Diogelu yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol erbyn diwedd mis Tachwedd 2024.

Dyddiad: Dydd Mawrth 23 Gorffennaf a dydd Mercher 24 Gorffennaf, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm - 8:15pm
Lleoliad: Canolfan Goffa Brynteg, Ffordd y Chwarel,  Brynteg, LL11 6AB
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £5

Dyddiad: Dydd Mawrth 10 Medi a dydd Mercher 11 Medi, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm - 8:15pm
Lleoliad: Canolfan Goffa Brynteg, Ffordd y Chwarel,  Brynteg, LL11 6AB
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £5

Dyddiad: Dydd Iau 26 Medi, 2024  
Amser: 9.30am -2pm
Lleoliad: Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt, LL11 4AG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £5

Dyddiad: Dydd Gwener 27 Medi, 2024 
Amser: 9.30am -2pm
Lleoliad: Groundwork Gogledd Cymru, 3-4 Ffordd Plas Power, Tanyfron, LL11 5SZ
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £5
 

Dyddiad: Dydd Sadwrn 8 Hydref a dydd Sul 9 Hydref, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm - 8:15pm
Lleoliad: Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn, Heol-y-Castell, Coedpoeth, LL11 3NA
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £5

Dyddiad: Dydd Iau 10 Hydref, 2024
Amser: 9.30am -2pm
Lleoliad: Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt, LL11 4AG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £5

Archebu

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.

Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.