Cofiwch anfon e-bost at Childcaretraining@wrexham.gov.uk i sicrhau bod lle ar y cwrs cyn talu.

Manylion y cwrs: Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy’n ymwneud â goruchwylio a gwerthuso staff e.e. rheolwyr, dirprwy reolwyr, goruchwylwyr ac aelodau eraill o uwch staff.

Bydd yn rhoi dealltwriaeth i chi am: 

  • Nodweddion goruchwylio a gwerthuso effeithiol
  • Pwysigrwydd goruchwylio a gwerthuso effeithiol 
  • Rheoli materion perfformiad
  • Manteision i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth
  • Deddfwriaeth berthnasol
  • Sgiliau rheoli allweddol

Bydd y rhai sy’n mynychu’r cwrs yn cael dealltwriaeth am bwysigrwydd goruchwylio a gwerthusiadau effeithiol.  Yn ychwanegol, bydd y rhai sy’n mynychu’r cwrs yn gwerthfawrogi’r rôl allweddol y maent yn ei chwarae wrth wella perfformiad a morâl staff, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol i’r sefydliad a defnyddwyr gwasanaeth.

Dyddiad: dydd Iau 10 Hydref a dydd Iau 17 Hydref, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:30pm - 8:30pm
Lleoliad: Canolfan Goffa Brynteg, Ffordd y Chwarel,  Brynteg, LL11 6AB
Hyfforddwr: CBSW
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd 
Cost: £5

Archebu

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.

Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.