Cofiwch anfon e-bost at Childcaretraining@wrexham.gov.uk i sicrhau bod lle ar y cwrs cyn talu.

Manylion y cwrs: Bydd y cwrs yn helpu pobl i ddeall ymddygiad plant yn eu gofal i’w galluogi nhw i gefnogi eu datblygiad. 

Mae’r holl blant yn elwa o ddatblygu ymlyniadau sicr gyda’u rhieni/gofalwyr; fodd bynnag yn anffodus mae rhai plant yn datblygu ymlyniadau ansicr oherwydd camdriniaeth ac adfyd y maen nhw wedi’i brofi. Gall hyn olygu fod plant yn datblygu sawl ymddygiad ymlyniad i oroesi ac yn datblygu model waith mewnol negyddol.

Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i ddeall:

  • Yr effaith negyddol o esgeulustod a chamdriniaeth ar ddatblygiad plant a’u perthnasau ag eraill. 
  • Yr ystod o anawsterau y gall plant eu datblygu yn dilyn profiadau andwyol cynnar (ACEs).
  • Dulliau o ymlyniad gwahanol a sut i’w hadnabod a’r ymatebion sydd eu hangen i’r ymagweddau ymlyniad hyn.
  • Edrych ar syniadau ar gyfer diogelwch i gefnogi plant sydd wedi cael profiadau andwyol cynnar a sut y gellir defnyddio ymagwedd PACE mewn lleoliadau gofal plant.

Dyddiad: Dydd Mawrth 24 Medi, 2024
Amser: 6:30pm - 8:30pm
Lleoliad: Longfields, Adeilad Gweithredu dros Blant, LL13 7EN
Hyfforddwr: Action for Children
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd 
Cost: £5

Archebu

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.

Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.