Cofiwch anfon e-bost at Childcaretraining@wrexham.gov.uk i sicrhau bod lle ar y cwrs cyn talu.

Manylion y cwrs: Nod y weminar hon yw galluogi ymarferwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ‘Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ’, gan ystyried y negeseuon a’r egwyddorion allweddol i gefnogi ymarferwyr nad ydynt yn cael eu hariannu, gyda chynllunio ar gyfer cynnydd plant.

Bydd y sesiwn yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth a hyder mewn perthynas â:

  • Pwrpas asesu
  • Rôl arsylwi i helpu i gynllunio ar gyfer dilyniant
  • Pwyntiau allweddol i'w hystyried wrth gynnal asesiadau 
  • Camau nesaf

Dyddiad: Dydd Mercher 26 Mehefin, 2024
Amser: 6:30pm - 9pm
Lleoliad: Zoom / Teams
Hyfforddwr: PACEY Cymru 
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd 
Cost: £5

Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Tachwedd, 2024
Amser: 6:30pm - 9pm
Lleoliad: Zoom / Teams
Hyfforddwr: PACEY Cymru 
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd 
Cost: £5

Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Rhagfyr, 2024
Amser: 6:30pm - 9pm
Lleoliad: Zoom / Teams
Hyfforddwr: PACEY Cymru 
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd 
Cost: £5

Archebu

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.

Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.