Manylion y cwrs: Lefel 1 a 2 (sef y Gweithdy i Ddechreuwyr neu’r Gweithdy Sylfaen gynt)
- Mae Elusen Makaton wedi cyfuno'r ddau lwybr hyfforddi blaenorol ar gyfer gweithwyr proffesiynol a rhieni/gofalwyr yn un llwybr i symleiddio hyfforddiant Makaton a’i wneud yn haws mynd ato. O ganlyniad i hyn, yr ydym ni’n falch iawn o gyhoeddi’r Gweithdai Makaton diwygiedig sef Lefel 1 a Lefel 2. Mae’r gweithdai hyn yn seiliedig ar y Gweithdy i Ddechreuwyr a’r Gweithdy Sylfaen blaenorol ac maen nhw’n gyfuniad o’r elfennau gorau o’r ddau. Mae’r Gweithdai Lefel 1 a Lefel 2 gyda’i gilydd yn rhoi’r un lefel o wybodaeth a geirfa â Gweithdy i Ddechreuwyr neu Weithdy Sylfaen cyflawn.
- Mae'r dull hyblyg a chyfunol hwn yn cynnig gweithdy rhyngweithiol ac ymarferol. Drwy gyfuno’r ddau lwybr, yr ydym ni wedi symleiddio hyfforddiant Makaton sy’n cynnig amgylchedd dysgu mwy hygyrch a chynhwysol. Mae’r gweithdai bellach wedi’u hanelu at weithwyr proffesiynol a rhieni/gofalwyr sy’n golygu y gall defnyddwyr Makaton i gyd rannu amrywiaeth eang o brofiadau personol, o ddefnyddio Makaton gyda’r teulu i’w ddefnyddio yn yr ysgol, yn y gwaith ac ym mywyd bob dydd.
- Cynnwys y cwrs – cyflwyniad ymarferol a hwyliog i’r Rhaglen Iaith Makaton. Bydd unigolion yn dysgu’r arwyddion a’r symbolau o gamau 1-2 (Lefel 1) ac yn ychwanegol i’r Eirfa Graidd. Mae’r arwyddion a’r symbolau sy’n cael eu haddysgu yn Lefel 1 yn cynnwys ‘Aelodau’r Teulu’, ‘Bwyd a diod’, ‘Y Cartref’, ‘Cludiant’, ‘Cyfarchion’ a geiriau Gweithredu a Disgrifio sylfaenol.
- Mae geirfa Lefel 2 (camau 2 + 3) yn cynnwys ‘Pobl’, ‘Anifeiliaid’, ‘Bwyd’, ‘Y Cartref’, ‘Teganau’, ‘Sgiliau hunanofal’ a ‘Meddygol’ Lefel 1.
Lefel 1
Dyddiad: Dydd Mercher 29 Mai a dydd Mercher 12 Mehefin, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: Cyrraedd am 6:15, 6:30pm – 8:45pm
Lleoliad: Canolfan Goffa Brynteg, Ffordd y Chwarel, Brynteg, LL11 6AB
Hyfforddwr: Lowri Roberts
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd
Pris: £5
Lefel 1
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Medi a dydd Mercher 18 Medi, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: Cyrraedd am 6:15, 6:30pm – 8:45pm
Lleoliad: Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn, Heol-y-Castell, Coedpoeth, LL11 3NA
Hyfforddwr: Lowri Roberts
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd
Pris: £5
Lefel 2
Dyddiad: Dydd Mercher 3 Gorffennaf a dydd Mercher 17 Gorffennaf, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: Cyrraedd am 6:15, 6:30pm – 8:45pm
Lleoliad: Canolfan Goffa Brynteg, Ffordd y Chwarel, Brynteg, LL11 6AB
Hyfforddwr: Lowri Roberts
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd
Pris: £5
Lefel 2
Dyddiad: Dydd Mercher 9 Hydref a dydd Mercher 16 Hydref, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: Cyrraedd am 6:15, 6:30pm – 8:45pm
Lleoliad: Canolfan George Edwards, Cefn Mawr, LL14 3AE
Hyfforddwr: Lowri Roberts
Cynulleidfa: Pob Ymarferydd
Pris: £5
Archebu
Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.
Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.