Cofiwch anfon e-bost at Childcaretraining@wrexham.gov.uk i sicrhau bod lle ar y cwrs cyn talu

Manylion y cwrs: Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatreg Sylfaenol wedi’i anelu at unrhyw un sy’n gofalu am blant, yn cynnwys gweithwyr Gofal Plant proffesiynol. Mae hwn yn gwrs 6 awr wedi’i gymeradwyo gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). 

Dylid ailadrodd y cwrs bob tair blynedd.

Mae’r cwrs yn gymysgedd o waith ymarferol ac ysgrifenedig. Does dim asesiad ffurfiol ar ddiwedd y cwrs. Bydd yr hyn mae ymarferwyr yn ei ddysgu yn cael ei asesu drwy gydol y cwrs.  

  • Gallu asesu argyfwng a blaenoriaethu pa gamau i'w cymryd.
  • Helpu babi neu blentyn sy’n anymwybodol ac sy'n anadlu yn ôl yr arfer.
  • Helpu babi neu blentyn sy’n anymwybodol ac nad ydynt yn anadlu yn ôl yr arfer.
  • Helpu babi neu blentyn sy’n cael ffit.
  • Helpu babi neu blentyn sy’n tagu.
  • Helpu babi neu blentyn sy’n gwaedu.
  • Helpu babi neu blentyn sy’n dioddef o sioc yn sgil colli llawer o waed (sioc hypofolemig)

O ganlyniad i ostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu cymryd rhan yn y cwrs hwn, 12 o bobl yn unig y gallwn ni eu derbyn ar bob cwrs.

Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Medi a dydd Mercher 4 Medi, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm - 9pm
Lleoliad: Canolfan Goffa Brynteg, Ffordd y Chwarel,  Brynteg, LL11 6AB
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £5

Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Medi a dydd Mercher 18 Medi, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: 6:15pm - 9pm
Lleoliad: Canolfan Goffa Brynteg, Ffordd y Chwarel,  Brynteg, LL11 6AB
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £5

Archebu

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.

Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.