Cofiwch anfon e-bost at Childcaretraining@wrexham.gov.uk i sicrhau bod lle ar y cwrs cyn talu

Manylion y cwrs: Mae cyrsiau Diogelu Uwch yn addysgu mwy am yr hyn sy’n rhan o’r rôl ac mae’n eich helpu chi i ddeall y broses ddiogelu yn fwy manwl.

Mae’r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i ddatblygu’r gweithdrefnau diogelu yn y lleoliad a sicrhau bod pob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau yn gysylltiedig â diogelu plant. 

Mae’n cynnwys pynciau’n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ymdrin â’r rhain, deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy’n sail i bolisi’r lleoliad ar gyfer diogelwch a lles plant, dyletswyddau yn y broses amddiffyn plant aml-asiantaeth gan gynnwys cynadleddau achos a chyflenwi adroddiadau ysgrifenedig.

Swyddi Gofynnol:

Pobl â chyswllt â phlant ac sydd â chyfrifoldeb diogelu ar gyfer y ddarpariaeth.

Mae enghreifftiau’n cynnwys (nid yw’n rhestr gyflawn):

Ar y safle

  • Arweinydd lleoliad
  • Rheolwr
  • Unigolyn â Gofal
  • Gwarchodwr plant

Oddi ar y safle, o bosibl

  • Unigolyn Diogelu Dynodedig
  • Unigolyn Cyfrifol
  • Unigolyn Cofrestredig

Dyddiad: Dydd Llun 8 Gorffennaf, dydd Mawrth 9 Gorffennaf a dydd Iau 11 Gorffennaf, 2024 (mae’n rhaid i chi fod yn bresennol ar bob dyddiad)
Amser: 6:15pm-9pm
Lleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt, Yr Ail Rodfa, Gwersyllt, Wrecsam, LL11 4ED
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £10

Dyddiad: Dydd Llun 15 Gorffennaf a dydd Mawrth 16 Gorffennaf, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: Diwrnod 1 9:30am - 2:30pm, Diwrnod 2 9:30am - 1pm
Lleoliad: Groundwork Gogledd Cymru,  3-4 Ffordd Plas Power, Tanyfron, LL11 5SZ
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £10

Dyddiad: Dydd Llun 22 Gorffennaf, dydd Mawrth 23 Gorffennaf a dydd Mercher 24 Gorffennaf, 2024 (mae’n rhaid i chi fod yn bresennol ar bob dyddiad)
Amser: 6:15pm-9pm
Lleoliad: Canolfan Goffa Brynteg, Ffordd y Chwarel,  Brynteg, LL11 6AB
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £10

Dyddiad: Dydd Sadwrn 17 Awst a dydd Sul 18 Awst, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: Diwrnod 1 9:30am - 2:30pm, Diwrnod 2 9:30am - 1pm
Lleoliad: Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt, LL11 4AG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £10

Dyddiad: Dydd Mawrth 3 Medi a dydd Mercher 4 Medi, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: Diwrnod 1 9:30am - 2:30pm, Diwrnod 2 9:30am - 1pm
Lleoliad: Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt, LL11 4AG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £10

Dyddiad: Dydd Sadwrn 5 Hydref a dydd Sadwrn 12 Hydref, 2024 (rhaid i chi fod yn bresennol ar y ddau ddyddiad)
Amser: Diwrnod 1 9:30am - 2:30pm, Diwrnod 2 9:30am - 1pm
Lleoliad: Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt, LL11 4AG
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £10

Dyddiad: Dydd Mawrth 1 Hydref, dydd Mercher 2 Hydref a dydd Iau 3 Hydref, 2024 (mae’n rhaid i chi fod yn bresennol ar bob dyddiad)
Amser: 6:15pm - 9pm
Lleoliad: Canolfan Goffa Brynteg, Ffordd y Chwarel,  Brynteg, LL11 6AB / Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn, Heol-y-Castell, Coedpoeth, LL11 3NA
Hyfforddwr: Groundwork Gogledd Cymru
Cynulleidfa: Pob ymarferydd sydd wedi’i restru uchod
Pris: £10

Archebu

Gellir archebu lle drwy anfon e-bost i’r childcaretraining@wrexham.gov.uk. Y dull a ffefrir gennym ar gyfer archebu a thalu yw drwy ein system talu ar-lein.

Sylwer nad yw’r derbyniad taliad yn gadarnhad o’ch archeb. Bydd hwn yn cael ei anfon ar wahân.