Rydych chi’n rhiant sy’n gofalu os ydych chi’n darparu gofal i’ch plentyn am fod angen cefnogaeth ychwanegol arnynt (oherwydd anabledd neu anghenion ychwanegol, boed nhw wedi cael diagnosis neu beidio).
Yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (GGiDW) gallwn:
- Ddod o hyd i fathau gwahanol o gefnogaeth i chi a’ch plentyn
- Rhoi gwybodaeth i’ch teulu am anabledd neu angen ychwanegol eich plentyn
- Dod o hyd i ofal plant sydd yn addas i’ch plentyn
- Dod o hyd i weithgareddau plant y gall eich plentyn ymuno ynddynt
Gallwch hefyd ddod o hyd i gefnogaeth drwy Banel Seibiant Anabledd a Gofal Plant, gyda:
- Cymorth tymor byr gyda chostau gofal plant
- Cyllid tymor byr i helpu’ch plentyn i setlo mewn i leoliad gofal plant newydd
- Seibiant tymor byr
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi gwestiynau am fod yn rhiant sy’n gofalu, yn cynnwys cefnogaeth y gallech chi ei gael, cysylltwch â thîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.
Dolenni perthnasol
Y lle i fynd i unrhyw un sy’n chwilio am wybodaeth neu gefnogaeth i blant a theuluoedd.
Elusen yn Wrecsam sydd yn darparu gweithgareddau allan o’r ysgol i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau
Yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i deuluoedd a gofalwyr plant sydd ag amrywiaeth o gyflyrau ar yr ymennydd
Yn cefnogi teuluoedd, beth bynnag yw anabledd neu gyflwr iechyd eu plentyn, gydag ystod eang o wasanaethau
Mae GOGDdC yn cynnig gwybodaeth am gefnogaeth leol, sesiynau cwnsela un i un, hyfforddiant digwyddiadau a theithiau anffurfiol, grwpiau cefnogaeth rheolaidd a chefnogaeth i fynd yn ôl i fyd gwaith
Yn rhoi cyngor a chefnogaeth i rieni plant sydd â nam ar y lleferydd ac iaith
Yn cynnig amrywiaeth o gyngor a chefnogaeth yn cynnwys cymorth wedi’i anelu’n benodol at deuluoedd sydd â phlant anabl