Pan fydd rhywun yn marw, mae nifer o bethau sydd angen eu gwneud, yn ystod cyfnod lle nad ydych wir eisiau eu gwneud. Un o’r rhain yw cysylltu ag adrannau’r llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol.
Beth yw’r gwasanaeth ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’?
Pan fyddwch yn cofrestru marwolaeth yn ein swyddfa gofrestru gallwn gynnig gwasanaeth ychwanegol am ddim yn y gobaith o wneud pethau'n haws i chi. Mae’r gwasanaeth hwn yn golygu y gallwch ddweud wrthym ni a gallwn ninnau gysylltu â sefydliadau eraill ar eich rhan.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae nifer o sefydliadau y gallwn ni hysbysu. Mae hyn yn cynnwys adrannau o fewn Cyngor Wrecsam a sefydliadau eraill y llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r DVLA.
Gallwn eich cynorthwyo i roi gwybodaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau a gallent hwythau anfon y wybodaeth ymlaen i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol i chi.
Os ydych yn dymuno defnyddio’r gwasanaeth, byddwch angen gwneud hynny o fewn 28 diwrnod o gofrestru’r farwolaeth.