Os yw plentyn rhwng 10 a 17 oed yn cyflawni trosedd, bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r Heddlu yn penderfynu a fydd modd ymdrin â’r drosedd y tu allan i’r Llys. Gelwir y broses hon yn ‘Biwro’.
Mae’r Biwro yn gyfle i wyro plant oddi wrth brosesau cyfiawnder troseddol ffurfiol fel y Llys.
Gall plentyn sydd wedi cyflawni trosedd gymryd rhan mewn gweithgareddau atgyweiriol wrth gael cefnogaeth sy’n benodol i’w hamgylchiadau. Mae gweithgaredd atgyweiriol yn golygu gwneud pethau’n iawn i’r dioddefwr neu’r gymuned trwy roi rhywbeth yn ôl.
Er mwyn i blentyn fod yn gymwys ar gyfer gwasanaeth y Biwro:
- Mae’n rhaid i’r Heddlu benderfynu nad yw’r drosedd yn rhy ddifrifol.
- Mae’n rhaid i’r plentyn gyfaddef yn llwyr ac yn glir eu bod wedi cyflawni’r drosedd a’u bod yn barod i weithio gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Os yw’r meini prawf uchod wedi’u bodloni, gellir cyflwyno enw’r plentyn ar gyfer y Biwro.
Beth fydd yn digwydd os caiff enw’r plentyn ei gyflwyno ar gyfer y Biwro?
Bydd aelod o staff y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cysylltu â’r plentyn. Dros yr wythnosau dilynol, bydd yr aelod hwn o staff yn gweithio’n agos gyda’r plentyn a’u rhieni/gofalwyr. Byddant yn dod i’w hadnabod fel bod modd iddynt gwblhau asesiad ac adroddiad.
Yna bydd yr asesiad a’r adroddiad yn cael eu cyflwyno i banel y Biwro.
Beth yw Panel y Biwro?
Mae Panel y Biwro’n cynnwys rheolwr o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Swyddog Heddlu o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a gwirfoddolwr cymunedol.
Eu rôl yw ystyried y wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno yn asesiad ac adroddiad y plentyn ond hefyd unrhyw asesiad a wnaed gyda’r dioddefwyr hefyd.
Bydd y panel yn trafod yr holl wybodaeth a chytuno ar y canlyniad mwyaf priodol ar gyfer y plentyn.
Canlyniadau posibl (datrysiadau y tu allan i’r Llys)
Mae’r dewisiadau y gall y panel eu dewis o ran canlyniadau yn cynnwys:
Gellir rhoi mwy nag un canlyniad Biwro i blentyn, ond bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ystyried a yw hyn yn addas i’r amgylchiadau.
Os yw panel y Biwro yn teimlo bod yr achos sy’n cael ei drafod yn rhy ddifrifol, gallai fynd i’r Llys yn lle hynny (dysgwch fwy am broses y Llys).
Ar ôl i’r panel wneud eu penderfyniad, bydd y plentyn yn cyfarfod gyda Swyddog Heddlu o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i gyflwyno’r datrysiad a gytunwyd. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno yng nghwmni oedolyn priodol (rhiant / gofalwr y plentyn fel arfer).
Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ceisio cyflwyno datrysiad y Biwro yr un diwrnod â chyfarfod y panel i gytuno ar ganlyniad.