1. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gosod Amodau a Thelerau defnyddio Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd y Codir Tâl Amdano. Gall y Cyngor amrywio neu newid yr Amodau a’r Telerau hyn ar unrhyw adeg. Bydd cwsmeriaid yn derbyn rhybudd ysgrifenedig am unrhyw newid 14 diwrnod ymlaen llaw.
  2. Yn unol â Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013, mae gan y cwsmer 14 diwrnod o dderbyn yr Amodau a’r Telerau hyn i ganslo’r gwasanaeth. Mae’n rhaid gwneud cais am ganslo gwasanaeth yn ysgrifenedig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Adran yr Amgylchedd a Thechnegol, De Ffordd yr Abaty, Stad Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam, LL13 9PW, neu drwy anfon e-bost i cysylltwch@wrexham.gov.uk. Nid oes modd canslo’r gwasanaeth dros y ffôn.
  3. Bydd y casgliadau ar gael i breswylwyr Wrecsam sydd wedi tanysgrifio ar gyfer y gwasanaeth ymlaen llaw. Mi fydd y Cyngor yn selio ei penderfyniad i wagio neu adael bin gwastraff gwyrdd sydd wedi ei gyflwyno ar gadarnhad o daliad tanysgrifiad drwy’r system swyddfa gefn.  Rydym yn argymell eich bod yn marcio eich bin drwy nodi eich cyfeiriad (enw ty / rhif). Fe all y bin gael ei adael os yw'r bin gwastraff gwyrdd yn cynnwys defnydd sydd  wedi ei halogi – gweler adran 11 a 12.
  4. Mae’n rhaid adnewyddu tanysgrifiad cwsmeriaid pob blwyddyn. Ddim ond cwsmeriaid sydd wedi talu eu tanysgrifiad sy’n gymwys i dderbyn y gwasanaeth.
  5. Mae’r tâl yn cynnwys tâl blynyddol am wagio un bin gwastraff gardd, sydd wedi’i osod gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn 01 Ebrill 2025 – 31 Mawrth 2026. Mae’r taliadau tanysgrifio yn ddarostyngedig i adolygiad yn ôl disgresiwn y Cyngor.
  6. Mae modd derbyn mwy o finiau gwastraff gardd. Bydd yn rhaid talu am ddanfon biniau ychwanegol (ar ben y tâl casglu).  Rydym yn argymell bod bob bin yn cael ei farcio gyda enw ty / rhif.
  7. I osgoi unrhyw amheuaeth, bydd biniau gwastraff gardd a ddarperir i gwsmeriaid gan y Cyngor (gan gynnwys biniau newydd) yn destun trwydded neilltuedig a dirymiadwy ac, o’r herwydd, dylid defnyddio biniau o’r fath yn unol â’r Amodau a’r Telerau hyn. Ni chaniateir i gwsmeriaid is-drwyddedu a bydd y Cyngor yn cadw meddiant ei holl Hawliau Eiddo Deallusol.
  8. Mae’r Cyngor yn gwagio biniau gwastraff gardd pob pythefnos rhwng 1 Mawrth a 30 Tachwedd, ac yn gwagio’r biniau unwaith y mis ym mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror. Efallai y bydd adegau pan na fydd modd gwagio'r biniau gwastraff gardd e.e. pan fo tywydd garw, cerbyd wedi torri i lawr a/neu weithredu diwydiannol. Os yw’r Cyngor yn methu gwagio bin gwastraff gardd yn ôl yr amserlen, bydd y Cyngor yn gwneud ei orau i wagio’r bin cyn gynted â phosibl. Ni fydd y Cyngor yn rhoi ad-daliadau o dan unrhyw amgylchiadau am gasgliadau a fethwyd neu os methwyd â gwagio bin gwastraff gardd.
  9. Bydd cwsmeriaid yn gyfrifol am y biniau gwastraff gardd, ac ni ddylid eu symud o’u heiddo. Os yw cwsmer yn symud tŷ yn ystod y flwyddyn, mae modd trosglwyddo’r tanysgrifiad i’r cyfeiriad newydd (os yw o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam). Cysylltwch â’r Cyngor i gadarnhau’r manylion ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd, ar e-bost i cysylltwch@wrexham.gov.uk neu dros y ffôn ar 01978 298989. Os nad oes bin gwastraff gardd yn yr eiddo newydd, yna bydd modd derbyn bin newydd am dâl ychwanegol. Os yw cwsmer yn symud i dŷ y tu allan i'r fwrdeistref, ni roddir unrhyw ad-daliad.
  10. Ni roddir unrhyw ad-daliad am ganslo’r gwasanaeth ar ganol y flwyddyn. Os ceir tystiolaeth o gamddefnyddio’r gwasanaeth neu’r bin gwastraff gardd, yna mae’n bosibl y bydd y gwasanaeth yn cael ei ganslo. Ni roddir unrhyw ad-daliad dan yr amgylchiadau hynny.
  11. Mae’n rhaid defnyddio biniau gwastraff gardd ar gyfer gwastraff gardd yr eiddo sydd wedi tanysgrifio. Dim ond gwastraff gardd a ddylid ei roi yn rhydd yn y bin. Mae’r gwastraff gardd a gesglir gan y Cyngor yn cynnwys gwair, torion gwrychoedd, brigau, rhisgl, dail, blodau, planhigion a changhennau bach. Nid yw’r Cyngor yn casglu canghennau mawr, rhywogaethau planhigion ymledol a phlanhigion ymledol nad ydynt yn rhai brodorol, tywarch, pridd, cerrig, gro, gwastraff bwyd, baw anifeiliaid, cerdyn, plastig, gwastraff cyffredinol a deunydd gwely anifeiliaid anwes. Bydd y Cyngor yn casglu’r eitemau derbyniol uchod a bydd popeth arall yn cael ei drin fel halogiad.
  12. Ni fydd biniau gwastraff gardd halogedig (h.y. biniau gydag eitemau na dderbynnir gan y Cyngor) yn cael eu gwagio. Os oes deunydd halogedig mewn bin gwastraff gardd, y cwsmer sy’n gyfrifol am dynnu'r eitemau halogedig allan cyn y casgliad nesaf. Os yw’r halogiad yn parhau, fe all y Cyngor ddod â’r gwasanaeth i ben. Ni roddir unrhyw ad-daliad am beidio â gwagio bin gwastraff gardd oherwydd halogiad.
  13. Mae’n rhaid gosod y bin gwastraff gardd y tu allan i’r eiddo neu yn y man dynodedig erbyn 7.30am ar y diwrnod casglu. Mae’n rhaid sicrhau bod caead y bin wedi ei gau’n sownd. Ni fyddwn yn casglu unrhyw wastraff ychwanegol h.y. gwastraff wedi’i adael wrth ymyl y bin neu ar ben y caead. Os yw cwsmer yn cael trafferth mynd â bin gwastraff gardd at ymyl y palmant oherwydd anabledd neu broblemau iechyd, gall gyflwyno cais i’r Cyngor am Wasanaeth Casglu gyda Chymorth.
  14. Os yw bin gwastraff gardd yn cael ei ddifrodi yn sgil gwaith y Cyngor bydd yn cael ei drwsio neu ei newid yn rhad ac am ddim cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Os yw’r bin gwastraff gardd wedi’i ddifrodi yn sgil esgeulustod neu gamddefnydd bydd cost bin newydd neu’r gwaith trwsio yn cael ei godi ar y cwsmer. Gellir rhoi gwybod am finiau wedi’u difrodi ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd, drwy e-bost i cysylltwch@wrexham.gov.uk neu dros y ffôn ar 01978 298989.