Gall ymholiad statws priffordd ddarganfod union raddfa’r briffordd a gaiff ei chynnal a’i chadw’n gyhoeddus sydd ger eiddo ac a yw’n ffinio’n uniongyrchol gyda llinell adeiladu’r eiddo.

Mae’r chwiliad uwch yn galluogi i wiriadau mwy manwl ddigwydd, gan gynnwys archwilio Gorchmynion Rheoli Traffig sydd ar lefel ymgynghori yn ogystal â chynlluniau mawr yn yr ardal honno ac unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae’r chwiliad uwch yn edrych ar bwyntiau CON29 fel:

  • 3.4 Cynlluniau Ffyrdd Gerllaw
  • 3.6 Cynlluniau Traffig

Gallwch wneud cais am gael y wybodaeth hon wedi ei chasglu ar eich cyfer am ffi.

Cost ymholiad statws priffordd (chwiliad uwch)

Mae ymholiad statws priffordd (chwiliad uwch) yn costio £50.

Gwneud cais am ymholiad statws priffordd (chwiliad uwch)

Anfonwch e-bost at Traffic@wrexham.gov.uk  i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am ymholiad statws priffordd (chwiliad uwch).

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion gofynnol yn gyflawn. Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo bydd e-bost yn cael ei anfon gyda dolen i wneud y taliad ar gyfer yr ymholiad statws priffordd (chwiliad uwch). Unwaith y bydd y taliad wedi’i wneud, bydd PDF o hyd a lled y chwilio, llythyr eglurhaol a chyswllt arall yn cael ei anfon drwy e-bost.