Mae marciau diogelu mynediad, a elwir hefyd yn farciau bar H, yn llinellau gwyn a osodir ar y ffordd, fel arfer o flaen dreif a garejys neu safleoedd parcio eraill oddi ar y ffordd.

Maent yn helpu gyrwyr i sylwi y gallent fod yn achosi rhwystr os ydynt yn parcio yno ac na ddylent rwystro mynediad i ardaloedd parcio oddi ar y ffordd.

Mae marciau bar H yn hawdd i’w hadnabod i helpu i atal gyrwyr rhag parcio'n anystyriol. Rhoi cyngor yn unig mae’r marciau hyn ac nid oes ganddynt unrhyw bwysau cyfreithiol.  Ni ddarperir Bariau H i gadw gofod parcio yn eich eiddo.

Ni allwch wneud cais am farciau bar H os nad oes gennych chi ddreif.

Ni allwch wneud cais am farc bar H dros bwyntiau mynediad a rennir oni bai bod gennych ganiatâd ysgrifenedig pawb y caniateir iddynt ddefnyddio’r pwynt mynediad hwnnw. Ni allwch wneud cais chwaith os oes cyfyngiadau parcio eraill eisoes yn bresennol, er enghraifft llinellau melyn dwbl.

Gwneud cais am farc Bar H / adnewyddu marc Bar H

Gallwch wneud cais am farc Bar H, neu adnewyddu marc Bar H, drwy lenwi ein ffurflen ar-lein.

Dechrau rŵan

Cost creu marciau Bar H a chost adnewyddu marciau Bar H

Y ffi i wneud cais am far H yw £125 (neu am ddim os ydych chi’n yrrwr anabl sydd â Bathodyn Glas). Y ffi i wneud cais am adnewyddu Bar H yw £100.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion gofynnol yn gyflawn. Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo caiff e-bost ei anfon gyda dolen i wneud y taliad ar gyfer marciau Bar H newydd neu adnewyddu marciau Bar H. Unwaith y bydd y taliad wedi'i wneud, gwneir cais am waith paentio llinellau.