Cyn i chi wneud unrhyw waith yn, ar neu uwchben y briffordd gyhoeddus bydd angen i chi gael trwydded gennym ni. Cyfeirir yn gyffredinol at y drwydded fel ‘Adran 50’ ac fe’i cyhoeddir o dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.

Mae'r drwydded hon yn caniatáu gosod cyfarpar yn, ar neu uwchben y briffordd a dim ond gyda'n caniatâd ni fel yr Awdurdod Priffyrdd y gellir gwneud hyn.

Y gost ar gyfer trwydded gosod cyfarpar newydd (cwsmer preifat)

Y gost yw £456 am un tŷ, £743 am ddau dŷ neu fwy, £660 am ddatblygiad dibreswyl neu ddatblygiad cyffredinol, neu £588 am ddatblygiad amaethyddol/garddwriaethol.

Y gost ar gyfer atgyweirio cyfarpar presennol neu osod cyfarpar newydd yn ei le (cwsmer preifat)

Y gost yw £150 i atgyweirio cyfarpar presennol neu osod cyfarpar newydd yn ei le, pan fo yna Drwydded Gwaith Stryd eisoes yn bodoli.

Y gost yw £205 i atgyweirio cyfarpar presennol neu osod cyfarpar newydd yn ei le, pan nad yw Trwydded Gwaith Stryd wedi ei roi.

Gwneud cais am drwydded Adran 50

Anfonwch e-bost at highwayroadworks@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am drwydded Adran 50.

Y gosb am anufudd-dod

Bydd mesurau gorfodi yn arwain at Rybudd Cosb Benodedig o £100 yn ogystal â ffi’r drwydded briodol.

Bydd y Rhybuddion Cosb Benodedig o hyd at £100 hefyd yn cael eu gorfodi os na lynir at yr amodau a’r telerau.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn asesu eich cais i sicrhau bod yr holl fanylion gofynnol yn gyflawn. Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, a phroses Adran 50 wedi'i chwblhau, bydd e-bost yn cael ei anfon gyda dolen i dalu am y cais. Unwaith y bydd y taliad wedi'i wneud byddwch yn cael cadarnhad drwy e-bost gyda'r drwydded briodol a llythyr eglurhaol.