Cyn i chi wneud unrhyw waith yn, ar neu uwchben y briffordd gyhoeddus bydd angen i chi gael trwydded gennym ni.

Mae’n rhaid cael Trwydded Gwaith Stryd i wneud unrhyw waith nad yw’n ymwneud â’r briffordd yn y stryd. Y rheswm am hyn yw er mwyn galluogi cynnal ychydig o reolaeth ar y gwaith, lefel safonol o ailosod a chadw cofnodion yn ymwneud â chyfarpar ar y briffordd ac i leihau’r risg o ddifrod.

Mae rhai enghreifftiau o pryd y bydd angen trwydded adran 171 yn cynnwys ar gyfer codi cloriau tyllau archwilio, gosod ceblau cyfrif traffig, tyllau prawf ac archwiliad Teledu Cylch Caeëdig.

Y gost am drwydded agor ffordd

Y gost am drwydded agor ffordd yw £255.

Y gost am drwydded ar gyfer cabanau, cynwysyddion, compownd neu ddeunyddiau adeiladu

Y gost am drwydded ar gyfer cabanau, cynwysyddion, compownd neu ddeunyddiau adeiladu yw £100.

Y gost am drwydded ar gyfer gosod craeniau ar y briffordd

Y gost am drwydded i osod craen ar y briffordd yw £350 y diwrnod, yn ogystal â ffioedd cau’r ffordd os oes angen.

Y gost am drwydded ar gyfer cyfarpar Llwyfan Gweithio Symudol sy’n Codi

Y gost am drwydded ar gyfer Llwyfan Gweithio Symudol sy’n Codi er mwyn ei osod ar y briffordd am fwy nag awr yw £100 y diwrnod, yn ogystal â ffioedd cau’r ffordd os oes angen.

Gwneud cais am drwydded Adran 171

Anfonwch e-bost at highwayroadworks@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am drwydded Adran 171.

Y gosb am anufudd-dod

Bydd mesurau gorfodi yn arwain at Rybudd Cosb Benodedig o £100 yn ogystal â ffi’r drwydded briodol.

Bydd y Rhybuddion Cosb Benodedig o hyd at £100 hefyd yn cael eu gorfodi os na lynir at yr amodau a’r telerau.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn asesu eich cais i sicrhau bod yr holl fanylion gofynnol yn gyflawn. Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, a phroses Adran 171 wedi'i chwblhau, bydd e-bost yn cael ei anfon gyda dolen i dalu am y cais. Unwaith y bydd y taliad wedi'i wneud byddwch yn cael cadarnhad drwy e-bost gyda chopi o’r drwydded.