Gallwch wneud cais am gymeradwyaeth i ddiffodd signalau traffig parhaol a chroesfannau i gerddwyr dros dro.

Mae cais a gymeradwywyd i ddiffodd neu roi signalau traffig parhaol ymlaen yn rhoi caniatâd i’w diffodd dros dro pan fo gwaith yn cael ei wneud, er enghraifft wrth groesfan i gerddwyr neu ar gyffordd. 

Dim ond gweithredwr wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam all eu rhoi ymlaen neu eu diffodd.

Y gost am wneud cais i ddiffodd goleuadau traffig

Y gost i ddiffodd signalau traffig parhaol dros dro yw £86 i bob gweithred o fewn oriau gwaith (8am – 4pm), neu £115 i bob gweithred y tu allan i’r oriau hyn, gan gynnwys gyda’r nosau, penwythnosau a gwyliau banc.

I wneud cais i ddiffodd goleuadau traffig

Anfonwch e-bost at highwayroadworks@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am wneud cais i ddiffodd goleuadau traffig.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion gofynnol yn gyflawn. Pan gaiff eich cais ei gymeradwyo bydd e-bost yn cael ei anfon gyda dolen i wneud y taliad am ganiatâd i ddiffodd goleuadau traffig neu eu rhoi ymlaen dros dro. Unwaith y bydd y taliad wedi’i wneud bydd trefniadau yn cael eu gwneud.