O dan Ddeddf Priffyrdd 1980, mae’n rhaid i unrhyw un sydd am yrru ar draws troedffordd i barcio ar eu heiddo gael croesfan cerbydau awdurdodedig.

I fynd ymlaen gyda’r cais llawn, mae’n rhaid i chi gael caniatâd i gael croesfan i gerbydau (cytundeb Adran 184) a chael caniatâd i dyllu yn y briffordd er mwyn gwneud y gwaith (trwydded Adran 171).

Beth yw croesfan i gerbydau?

Croesfan i gerbydau yw lle caiff cyrbau eu gostwng o’u lefel arferol a lle caiff y palmant neu'r llain ymyl ei gryfhau i gymryd pwysau'r cerbyd sy'n ei groesi er mwyn osgoi difrod i'r palmant, y pibellau neu'r ceblau sydd wedi eu claddu oddi tano.

Mae’n rhaid i chi wneud cais os hoffech i groesfan i gerbydau gael ei hadeiladu.

Os oes gennych chi groesfan i gerbydau yn barod ar gyfer eich eiddo, ond bod angen ei hymestyn, bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd yn yr un modd.

Os nad ydych yn berchen ar yr eiddo, mae’n rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan eich landlord cyn y gall adeiladu ddigwydd. Byddwn angen gweld tystiolaeth o hyn cyn y gall y cais gael ei brosesu.

Ar gyfer rhai dosbarthiadau o briffyrdd, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio ar wahân arnoch hefyd. Gallwch weld y ffyrdd dosbarth ar ein map ffyrdd mabwysiedig.

Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer ffyrdd A, B neu C, fodd bynnag nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer ffyrdd diddosbarth.

Os oes angen caniatâd cynllunio ar y ffordd rydych chi wedi'i dewis, bydd angen i chi ymweld â'r adran cynllunio a rheoli adeiladu.

Os nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y ffordd rydych wedi ei dewis fe allwch ddechrau eich cais am groesfan i gerbydau.

Cost croesfan i gerbydau

Mae'r cais am groesfan i gerbydau yn costio £200.

Mae caniatâd i dyllu’r briffordd yn costio £255.

Gwneud cais am groesfan i gerbydau

Anfonwch e-bost at Traffic@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am groesfan i gerbydau.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd yn rhaid i ni asesu eich cais i sicrhau bod yr holl fanylion gofynnol yn gyflawn. Pan fydd eich cais yn cael ei gymeradwyo a phroses y groesfan i gerbydau wedi'i chwblhau, bydd e-bost yn cael ei anfon gyda dolen i dalu am y cais. Unwaith y bydd taliad wedi’i wneud byddwch yn derbyn e-bost gyda’r gymeradwyaeth i gael croesfan i gerbydau (cytundeb Adran 184).

Pan rydych yn barod i gyflawni’r gwaith gan ddefnyddio contractwr cymwys ac addas (mae’n rhaid i hyn fod o fewn 5 mlynedd i’r dyddiad cymeradwyo), bydd angen cael caniatâd pellach i gloddio’r briffordd a bydd rhaid cael trwydded Adran 171.