Bydd angen i chi wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro os oes angen i chi atal neu gyfyngu ar draffig cerbydau a/neu gerddwyr dros dro ar hyd y briffordd.
Lle caiff Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro eu defnyddio?
Gellir gweithredu Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro mewn perthynas â ffyrdd a throedffyrdd:
- I ymdrin â sefyllfa a gynlluniwyd neu rybudd brys os oes angen cyfyngiad ar unwaith ar gyfer sefyllfa na chafodd ei gynllunio.
- I ganiatáu i waith hanfodol gael ei wneud ar y briffordd, fel gosod gwasanaethau fel nwy, trydan neu ddŵr neu wneud gwaith i’w cynnal a’u cadw.
- Ar gyfer gwaith wrth y briffordd fel datblygiadau mawr.
Mae mathau cyffredin o Orchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro yn cynnwys:
- Cau ffyrdd
- Creu system unffordd/cau lonydd
- Cyfyngiad ar aros
- Cyfyngiadau o ran pwysau
- Cyfyngiadau cyflymder
- Atal lôn fws a pharcio
Gallant hefyd fod ar ffurf:
- Gwahardd troi
- Cyfyngiad unffordd
- Terfyn cyflymder
- Gwahardd mynediad
Os oes angen Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro arnoch am hyd at 5 diwrnod, mae angen rhybudd ymlaen llaw o 10 diwrnod gwaith arnom ar gyfer ei weithredu.
Ar gyfer cyfnod sydd dros 5 diwrnod, mae angen rhybudd 6 wythnos ymlaen llaw arnom ar gyfer ei weithredu.
Cost cau ffordd dros dro
Mae’n costio £935 i gau ffordd am hyd at 5 diwrnod gwaith.
Mae cau ffordd am gyfnod sy’n fwy na 5 diwrnod gwaith a hyd at 18 mis yn costio £2190.
Mae cau ffordd ar frys yn costio £980.
Mae cau ffordd ar gyfer digwyddiadau arbennig yn costio £845.
Gwneud cais am gau ffordd dros dro
Anfonwch e-bost at highwayroadworks@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am gau ffordd dros dro.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fyddwch yn cyflwyno eich cais bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion gofynnol yn gyflawn. Os caiff eich cais ei gymeradwyo bydd e-bost yn cael ei anfon yn ymwneud â’ch cais.
Wedi i’r gwaith gael ei gwblhau fe godir anfoneb maes o law.