Rydych yn gyfrifol am fân waith trwsio, ond efallai y gallwn ni helpu os ydych yn hŷn na 60 neu ag anabledd difrifol.
Mae mân waith trwsio’n cynnwys...
- plygiau a chadwyni ar gyfer sinciau, baths a basnau
- seddi a gorchuddion seddi toiled
- leiniau dillad a sychwyr dillad troelli (heb law am mewn iardiau a rennir)
- gwaelodion gratiau o fewn 12 mis i’w adnewyddu
- newid cloeon os oes goriadau ar goll
- cost cael mynediad os ydych wedi eich cloi allan
- profi larymau mwg (os oes gennych synhwyrydd mwg batri wedi ei osod rhowch wybod i ni ac mi wnawn ni drefnu i’w osod ar y prif gyflenwad trydan)
Chi sy’n gyfrifol am drwsio ac/neu gynnal unrhyw osodion rydych wedi talu amdanynt ac wedi eu gosod drosoch eich hun.
Chi sydd hefyd yn gyfrifol am wneud gwaith trwsio i’ch gosodion a ffitiadau sydd wedi eu difrodi gennych chi, unrhyw un sy’n byw gyda chi, ymwelwyr neu gontractwyr a gyflogir gennych. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddifrod a achoswyd yn ddamweiniol, drwy fod yn ddiofal, neu’n fwriadol.
Gwaith trwsio y codir tâl amdano
Os oes rhaid i ni drwsio difrod a achoswyd gennych chi neu'r bobl rydych yn gyfrifol amdanynt, yna byddwn yn codi tâl arnoch chi am gost y gwaith (hyd yn oed os ydych chi dros 60 neu ag anabledd difrifol).