Os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau isod, gallech gael gostyngiad ar eich Treth y Cyngor, neu mae’n bosibl y byddwch wedi’ch eithrio rhag ei dalu o gwbl.
Cysylltwch â ni os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys i dderbyn y gostyngiadau hyn.
Gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad ar eich Treth y Cyngor o dan yr amgylchiadau canlynol...
- Chi ydi’r unig oedolyn sy’n byw mewn eiddo
- Rydych yn gofalu am rywun ag anabledd, sydd ddim yn ŵr/gwraig i chi nac yn blentyn o dan 18 oed
- Rydych yn byw mewn cartref lle mae arnoch chi, neu rywun yr ydych yn byw gyda nhw, angen lle ychwanegol o ganlyniad i anabledd
- Rydych yn garcharor, neu mae rhywun yr ydych yn arfer byw gyda nhw yn garcharor
- Rydych yn byw gyda rhywun sy’n 18 oed neu drosodd ac yn derbyn budd-dal plant drostyn nhw
- Rydych yn fyfyriwr llawn amser, yn derbyn hyfforddiant ieuenctid, yn brentis neu’n fyfyrwraig nyrsio
Efallai y byddwch wedi’ch eithrio os ydych yn…
- Fyfyriwr llawn amser, yn derbyn hyfforddiant ieuenctid, yn brentis neu’n fyfyrwraig nyrsio sy’n byw gyda dim ond myfyrwyr eraill llawn amser
- 18 neu 19 oed ac yn dal mewn addysg, neu newydd adael addysg
- Dioddef nam meddyliol difrifol ac yn byw ar eich pen eich hun
- Claf mewn ysbyty
- Claf mewn cartref gofal
- Yn aros mewn rhai hostelau neu lochesi nos
Mwy o wybodaeth am ostyngiadau o ganlyniad i anabledd
Mae ‘Unigolyn Anabl’ yn cyfeirio at rywun sydd ag anabledd sylweddol a pharhaol. Gallant fod yn oedolyn neu’n blentyn a does dim rhaid iddynt fod y sawl sy’n talu Treth y Cyngor.
Fe allech fod yn gymwys am ostyngiad os oes o leiaf un o’r canlynol yn eich eiddo:
- Ystafell wely neu gegin ychwanegol yn arbennig ar gyfer yr unigolyn anabl.
- Ystafell (ar wahân i ystafell wely, cegin neu doiled) i ddiwallu anghenion yr unigolyn anabl ac sy’n cael ei defnyddio ganddyn nhw yn bennaf.
- Lle ychwanegol er mwyn gallu defnyddio cadair olwyn. Mae’n rhaid i’r ystafell neu’r gadair olwyn fod yn hanfodol, neu o bwysigrwydd mawr i les yr unigolyn anabl. Nid yw cadeiriau olwyn a ddefnyddir y tu allan yn unig yn cyfrif.
Os yn gymwys codir Treth y Cyngor ar fand un yn is na gwir fand prisio’r eiddo. Os yw’r eiddo ym Mand A bydd y gostyngiad yn 1/9 o’r dreth ar dai Band D yn yr ardal.
Eithriadau rhag talu: eiddo wedi’i feddiannu
- Eiddo lle nad oes neb ond myfyrwyr llawn amser yn byw
- Neuaddau preswyl myfyrwyr
- Eiddo sy’n berchen i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn a gedwir fel llety ar gyfer y lluoedd arfog
- Eiddo wedi’i feddiannu gan luoedd sy’n ymweld
- Anheddau wedi’u meddiannu gan bobl dan 18 oed
- Anheddau wedi’u meddiannu dim ond gan y rhai hynny sydd â nam meddyliol difrifol
- Anheddau sydd yn unig neu’n brif fan preswyl unigolyn sydd ddim yn ddinesydd Prydeinig, sydd â breintiau diplomyddol ac a fyddai’n gorfod talu Treth y Cyngor oni bai am yr eithriad hwn
- Anheddau sy’n ffurfio rhan o eiddo unigol (er enghraifft anecs) a feddiannir gan berthynas dibynnol y sawl sy’n byw yn y rhan arall. Ystyrir fod perthynas yn ddibynnydd os yw ef neu hi yn 65 oed neu drosodd, yn anabl, neu ag anawsterau dysgu/anhwylder iechyd meddwl
Eithriadau rhag talu: eiddo gwag
- Eiddo gwag, heb ei ddodrefnu, sydd angen, neu lle mae gwaith adnewyddu neu newidiadau mawr yn cael eu gwneud i’r adeilad – uchafswm o 12 mis. Os yw’r eiddo dal yn wag ar ôl 12 mis bydd bydd y gost yn codi i 200%. Codir 250% ar eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am gyfnod parhaus o 4 blynedd neu fwy.
- Eiddo gwag sy’n berchen i ac a oedd yn cael ei ddefnyddio gan elusen – eithriad yn para am 6 mis
- Eiddo gwag heb fawr ddim dodrefn ynddo – eithriad yn para 6 mis, ar ôl hyn bydd Treth y Cyngor 100% yn berthnasol. Os yw’r eiddo’n dal yn wag ar ôl 12 mis bydd y gost yn codi i 200%. Codir 250% ar eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am gyfnod parhaus o 4 blynedd neu fwy.
- Eiddo gwag sy’n gartref i rywun sydd yn y carchar
- Eiddo gwag a oedd yn gartref i rywun sydd wedi mynd i gartref preswyl neu i’r ysbyty am ofal preswyl
- Eiddo gwag lle disgwylir profiant neu llythyrau gweinyddu (bydd yr eithriad yn para hyd nes y caniateir profiant ac am 6 mis wedi hyn, ar yr amod fod yr eiddo’n aros ym meddiant y cynrychiolydd personol)
- Eiddo sy’n wag oherwydd y byddai’n anghyfreithlon ei feddiannu
- Eiddo a fydd yn cael ei feddiannu maes o law gan weinidog
- Eiddo gwag a oedd yn gartref i rywun sydd wedi symud i rywle arall (nid cartref preswyl nac ysbyty) er mwyn derbyn gofal personol
- Eiddo sydd wedi’i adael yn wag gan rywun sydd wedi symud i ffwrdd er mwyn rhoi gofal personol i rywun arall
- Eiddo gwag a fu’n gartref i un myfyriwr neu fwy (bydd yr eithriad yn para tra bo’r sawl a fyddai fel arfer yn talu Treth y Cyngor yn fyfyriwr)
- Eiddo gwag sydd ym meddiant benthyciwr morgeisi
- Eiddo gwag lle mae’r unigolyn a fyddai fel arfer yn talu Treth y Cyngor yn ymddiriedolwr rhywun sydd yn fethdalwr
- Llain carafán neu angorfa cwch wag
- Rhandai gwag nas gellir eu gosod ar wahân
Mae hwn yn ganllaw cyffredinol am yr amryw o ostyngiadau/eithriadau sydd ar gael. Os hoffech gael eglurhad mwy manwl am ostyngiad/eithriad penodol, cysylltwch â ni.