Gallwch herio rhybudd tâl cosb os ydych yn teimlo ei fod yn annheg neu’n anghywir. Mae nifer o gamau i’r broses herio:

Apêl anffurfiol

Gallwch wneud apêl anffurfiol hyd at 28 diwrnod ar ôl cyflwyno’r rhybudd tâl cosb, ond dylech geisio gwneud hyn o fewn 14 diwrnod (felly os caiff eich her ei wrthod, mae gennych gyfle i dalu’r gyfradd ostyngedig 50%).

Nid oes angen i chi wneud taliad ar y pwynt hwn. Os derbynnir eich her, caiff y rhybudd tâl cosb ei ganslo ac ni gymerir camau pellach.

Dylid gwneud pob her yn ysgrifenedig. Argymhellwn eich bod yn cynnwys llungopi o’r canlynol pan fyddwch yn cyflwyno eich apêl: 

  • unrhyw docynnau talu ac arddangos rydych wedi’u prynu 
  • y rhybudd tâl cosb yr ydych wedi’i dderbyn
  • y bathodyn anabl sydd gennych (os yw’n briodol)

Apêl ar-lein

Gallwch hefyd gyflwyno apêl anffurfiol gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Dechrau rŵan

 

Apêl ffurfiol

Os nad ydych wedi talu neu herio eich rhybudd tâl cosb o fewn 28 diwrnod o’i gyflwyno, byddwch yn derbyn ‘rhybudd i’r perchennog’. Bydd hwn yn eich cynghori i dalu’r rhybudd tâl cosb (ar y gyfradd llawn), neu herio’n ffurfiol.

Ar ôl i chi dderbyn rhybudd i’r perchennog mae gennych 28 diwrnod i herio’n ffurfiol (sef ‘gwneud sylwad’). Rhaid i chi wneud eich sylwadau yn ysgrifenedig i:

Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru
Blwch Post 273
Y Rhyl
LL19 9EJ

Rhaid i’ch sylwadau: 

  • egluro eich rhesymau dros herio’r rhybudd tâl cosb mewn cymaint o fanylder â phosibl
  • gynnwys copïau o unrhyw dystiolaeth neu ddogfennau i gefnogi eich her

Rhesymau y gallwch wneud apêl

Gallwch wneud sylwadau yn erbyn eich rhybudd tâl cosb ar y seiliau canlynol:

  1. (a) Nid yw’r cerbyd erioed wedi bod yn eich eiddo. 
    (b) Nid oeddech bellach yn berchennog ar y cerbyd ar ddyddiad y drosedd. Bydd angen i chi ddarparu enw a chyfeiriad y person y gwerthoch y cerbyd iddynt, gyda thystiolaeth o ddyddiad y gwerthiant.  
    (c) Nid chi oedd perchennog y cerbyd tan ar ôl y diwrnod hwnnw. Bydd angen i chi ddarparu enw a chyfeiriad y person y prynoch y cerbyd ganddynt, gyda thystiolaeth o ddyddiad y gwerthiant.
  2. Ni ddigwyddodd y drosedd.
  3. Digwyddodd y drosedd tra roedd y cerbyd o dan reolaeth rhywun heb ganiatâd y perchennog. Rhaid i chi ddarparu cyfeirnod y drosedd ac enw’r orsaf heddlu lle adroddwyd am ladrad y cerbyd.
  4. Roedd y gorchymyn traffig yn annilys, gan olygu nad oedd y cyngor yn cydymffurfio â’r gofynion statudol wrth wneud y gorchymyn.
  5. Mae’r cerbyd yn eiddo i gwmni llogi cerbyd ac roedd y cerbyd wedi’i logi i rywun o dan gytundeb llogi ffurfiol. Bydd angen i chi ddarparu copi o’r cytundeb llogi yn dangos yn glir enw a chyfeiriad y person a oedd wedi llogi’r cerbyd. Rhaid i’r cytundeb hwn gynnwys datganiad o atebolrwydd wedi’i arwyddo gan y llogwr gan gydnabod atebolrwydd y llogwr am dalu tâl cosb.
  6. Roedd y tâl cosb tu hwnt i’r swm oedd yn gymwys i’r drosedd, gan olygu bod y swm yn fwy na’r swm oeddech yn agored yn gyfreithiol i dalu.
  7. Roedd y rhybudd i’r perchennog wedi’i gyflwyno tu allan i’r amser. Fel arfer dylai’r cyngor anfon rhybudd i’r perchennog o fewn chwe mis o ddyddiad y rhybudd tâl cosb, ond weithiau gallent gymryd hirach, os, er enghraifft, roedd oedi mewn caffael manylion gan y DVLA neu ddatganiad statudol wedi ei wneud.
  8. Cafodd y swyddog gorfodi sifil ei rwystro rhag cyflwyno’r rhybudd tâl cosb. Mae hyn yn gymwys pan fydd y cyngor yn anfon y rhybudd tâl cosb i chi drwy’r post gan ei fod yn dweud fod rhywun wedi rhwystro’r gwasanaethydd parcio rhag cyflwyno rhybudd tâl cosb ar y pryd ac nid ydych yn derbyn hyn.

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi wneud apêl ffurfiol?

Pan dderbynnir y sylwadau bydd yr holl ffeithiau perthnasol yn cael eu hystyried. Gall wybodaeth a gedwir ar gofnodion cyfrifiadur ac yn nodiadau’r swyddog gorfodi sifil hefyd eu cymryd i ystyriaeth. 

Os derbynnir eich sylwadau, cewch eich hysbysu fod y rhybudd tâl cosb wedi ei ganslo ac ni fydd camau pellach eu hangen (gan olygu nad oes raid i chi dalu’r dirwy).

Os gwrthodir eich sylwadau, bydd ‘hysbysiad gwrthod’ ffurfiol ynghyd â ffurflen apelio yn cael ei anfon atoch. Wedyn dylech unai dalu’r rhybudd tâl cosb ar y gyfradd llawn neu wneud apêl i ddyfarnwr annibynnol yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Mae’r dyfarnwr annibynnol wedi’i gyfyngu dan gyfraith i ystyried sylwadau ar y seiliau a restrir.  Ni allwch fynd â’ch achos i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig tan i chi wneud sylwadau ffurfiol i ni (y cyngor) ac mae unrhyw benderfyniad a wneir gan y Tribiwnlys wedi’i rwymo mewn cyfraith.