Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn bwriadu gwneud Gorchymyn i wahardd unrhyw un rhag gyrru unrhyw gerbyd modur ar gyflymder dros 30mya ar hyd y darnau hynny o ffordd a nodir yn Atodlen y Rhybudd hwn.

Gellir gweld copi o’r Gorchymyn arfaethedig a map yn dangos y darnau o ffyrdd y mae’r Gorchymyn arfaethedig yn ymwneud â nhw a datganiad o resymau’r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn yn Adran yr Amgylchedd a Chynllunio, Depo Ffordd yr Abaty, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, Wrecsam a Neuadd y Dref, Wrecsam, yn ystod oriau gwaith arferol neu gellir e-bostio 20mphConsultation@wrexham.gov.uk. Os ydych yn dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau, dylech eu hanfon i’r cyfeiriad neu’r cyfeiriad e-bost uchod.