Mae Credyd Treth Plant ar gael i deuluoedd gyda phlant, p'un a ydych yn gweithio ai peidio. Mae’r swm y byddwch yn derbyn yn seiliedig ar eich incwm blynyddol ac yn lleihau wrth i'ch incwm gynyddu. Gallwch ddefnyddio’r arian yma i dalu am gostau gofal plant, ond nid yw’n daliad penodol ar gyfer gofal plant.
Mae Credyd Treth Gwaith yn cefnogi pobl sy’n gweithio (cyflogedig a hunangyflogedig) ar incwm isel. Os ydych chi’n sengl, mae’n rhaid i chi fod yn gweithio 16 awr. Os ydych chi’n rhan o gwpl, mae’n rhaid i chi fod yn gweithio 24 awr rhyngoch chi gydag un ohonoch chi’n gweithio o leiaf 16 awr. Mae’r swm y byddwch yn derbyn yn seiliedig ar eich incwm blynyddol ac yn lleihau wrth i'ch incwm gynyddu.
Gallwch ddefnyddio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith ar gyfer costau gofal plant cofrestredig neu gymeradwy os ydych chi’n gymwys. Mae’r swm y byddwch yn derbyn yn dibynnu ar incwm yr aelwyd a’ch costau gofal plant. Efallai y byddwch chi’n well allan yn defnyddio talebau gofal plant os yw’ch incwm yn uchel.
Os ydych chi’n hawlio am y tro cyntaf, mae’n annhebygol y byddwch chi’n gwneud cais am Gredyd Treth, bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.