Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn gwerthfawrogi’r hyn sydd gan bobl hŷn i’w gynnig i’n cymunedau.  Rydym yn ystyried heneiddio fel cyfle i wneud rhywbeth da, yn hytrach na dim ond her.

Mae “Heneiddio’n Dda yn Wrecsam” yn ymwneud â chysylltu pobl o oedrannau gwahanol, annog dysgu ar bob cam mewn bywyd, a sicrhau bod gennym y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnom.  

Yn dilyn cynllun gan Sefydliad Iechyd y Byd, rydym yn gwneud cais i ddod yn ddinas sy’n “gyfeillgar i oed”. Y rheswm am hyn yw er mwyn creu amgylchedd cyfeillgar, lle gall pobl o bob oed fwynhau eu blynyddoedd diweddarach, drwy gadw mewn cysylltiad â’r hyn sy’n bwysig, fel teulu a ffrindiau.  Mae Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed hefyd yn galluogi pobl hŷn i gadw’n brysur a mwynhau iechyd da a hapusrwydd wrth fynd yn hŷn.

Rydym yn gweithio tuag at ei gwneud hi’n haws i oedolion hŷn symud o gwmpas a theimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn eich cymuned. Mae hyn yn golygu eich helpu chi i gadw’n ddiogel ac iach, a bod yn rhan o’ch cymuned.

Dolenni perthnasol