Mae’r wybodaeth hon i bobl sy’n cael anawsterau ymolchi ac i rai sy’n gweld gweithgareddau bob dydd yn fwy anodd. Mae wedi’i ysgrifennu gan therapyddion galwedigaethol cymwys.
Hunan Gymorth - atebion ymarferol
Mae’r adran hon yn rhoi cyngor a gwybodaeth i chi a/neu eich gofalwr am ffyrdd y gallwch ddatrys problemau defnyddio’r bath (mynd i mewn ac allan o’r bath).
Problemau gydag ymolchi mewn bath
Y prif broblemau’n ymwneud â defnyddio’r bath yn ddiogel yw:
- Camu i mewn ac allan o’r bath
- Eistedd yn y bath a chodi eto
Ymolchi
Mae llawer o bobl yn cadw eu hunain yn lân drwy ymolchi â chadach a dŵr ac efallai mai dyma’r ffordd mwyaf syml a diogel i barhau. Yn aml, mae’n ddoeth i eistedd wrth ymolchi eich hun.
Ymolchi mewn bath
Diogelwch yw’r peth pwysicaf. I rai, nid yw ymolchi mewn bath yn ddiogel a gallai’r peryglon fod yn fwy i rywun â phroblemau iechyd cymhleth. Os oes amheuaeth, peidiwch â cheisio defnyddio’r bath.
Problemau defnyddio’r gawod
Y prif broblemau’n ymwneud â defnyddio’r gawod yn ddiogel yw:
-
Symud i mewn ac allan o’r ciwbicl neu dros ochr y bath
-
Gallu sefyll yn ddigon hir
-
Perygl o syrthio
Offer i helpu â thoiled isel
Os ydych yn cael trafferth codi neu eistedd ar sedd toiled, yna gallai’r offer canlynol eich helpu.
Alla i gael help i ddefnyddio’r bath?
Gallwch gysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, cymorth neu gyngor, neu gallwch roi caniatâd i rywun arall wneud hynny ar eich rhan. Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn gofyn am fanylion ac yn siarad am sut y gallwn eich helpu.
Yn dibynnu ar eich ymholiad, bydd hyn yn cynnwys rhoi gwybodaeth neu gyngor am ffyrdd i helpu eich hun neu drefnu i gael asesu eich anghenion.
Ar gyfer cymorth i ddefnyddio’r bath, efallai y byddwn yn eich cyfeirio ar gyflenwyr annibynnol i roi cyngor neu gyfarpar, i’ch galluogi i helpu eich hun, neu efallai y cewch gynnig asesiad mewn clinig cymunedol. Os yw eich anghenion yn fwy cymhleth, efallai y byddwn yn cynnig asesiad yn eich cartref.
Asesiadau cartref ac addasiadau
Os oes angen mwy o gymorth, byddwch yn cael eich atgyfeirio am Asesiad Therapi Galwedigaethol, sy’n cael ei wneud yn eich cartref o bosib. Byddant yn edrych ar y ffyrdd y mae arnoch angen cefnogaeth ymarferol. Os na fydd cyfarpar neu fân addasiadau yn bodloni eich anghenion ymolchi, mae’n bosibl y bydd angen gwneud addasiadau yn eich cartref.
Os bydd angen gwneud llawer o waith megis tynnu’r bath a gosod cawod mynediad gwastad, cynhelir asesiad ariannol i edrych ar yr opsiynau ariannu ac a fydd angen i chi gyfrannu at yr addasiadau. Os byddwch yn rhentu eich cartref, bydd angen caniatâd y landlord i wneud yr addasiadau. Byddwch yn cael y manylion ar adeg eich asesiad cartref.
Gwybodaeth a chyngor am anghenion eraill heblaw ymolchi.
I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod cysylltwch â ni. Mae ein manylion yn adran ymholiadau’r dudalen gofal cymdeithasol i oedolion.