Maethu preifat yw pan fydd plentyn dan 16 oed (dan 18 oed os ydynt yn anabl) yn derbyn gofal gan rywun nad ydynt yn rhiant, perthynas agos, gwarcheidwad neu unigolyn â chyfrifoldeb rhiant. Mae’n drefniant breifat rhwng rhiant a’r unigolyn sy’n gofalu am y plentyn (a elwir yn ofalwr maeth preifat) am 28 diwrnod neu fwy.
Beth mae ‘perthynas agos’ yn ei olygu?
Rhiant, nain neu daid, brawd neu chwaer, ewythr neu fodryb neu lys-riant, sydd wedi priodi rhiant y plentyn sy’n derbyn gofal. Felly, er enghraifft, byddai cefnder neu gyfnither sy’n gofalu am blentyn yn ofalwr maeth preifat.
Ni fyddai rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant gyfreithiol dros y plentyn yn ofalwr maeth preifat.
Os ydych yn gofalu am blentyn am gyfnod llai na 28 diwrnod
Nid oes rhaid i chi roi gwybod i ni os ydych yn gofalu am blentyn am gyfnod sy’n llai na 28 diwrnod (er enghraifft os ydych yn helpu ffrind sy’n gwella o salwch neu’n gofalu am blentyn eich ffrind sydd ar eu gwyliau). Mae’n rhaid i chi ofalu am blentyn am o leiaf 28 diwrnod iddo gael ei ystyried fel maethu preifat.
Rhowch wybod i ni
Os ydych yn ymwelydd iechyd, doctor neu athro/athrawes, mae disgwyl i chi roi gwybod i ni am drefniant maethu preifat os nad ydych chi’n fodlon bod y gofalwr maeth preifat, neu riant y plentyn, wedi gwneud hynny.
Os ydych yn weithiwr proffesiynol ac yn ymwybodol o drefniant maethu preifat, mae’n ddyletswydd arnoch i roi gwybod i ni.
Pan fydd trefniant maethu preifat ar waith, bydd yn rhaid i’n gwasanaethau plant ymweld â’r cartref i:
- sicrhau bod y plentyn yn derbyn gofal priodol mewn amgylchedd diogel ac addas
- darparu cyngor a chymorth priodol i’r gofalwr
Sut i roi gwybod i ni am drefniant maethu preifat
Gallwch roi gwybod i ni drwy:
E-bost
Gallwch anfon e-bost at gyfeiriad Un Pwynt Mynediad ar: SPOAchildren@wrexham.gov.uk.
Ysgrifennu at
Gallwch hefyd anfon llythyr at:
Un Pwynt Mynediad Gwasanaethau Plant Wrecsam,
Gofal Cymdeithasol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
Stryt y Lampint,
Wrecsam,
LL11 1AR
Ffonio
Gallwch hefyd ffonio’r rhif UPM neu’r rhif Tîm Dyletswydd Argyfwng sydd wedi’i nodi ar ein tudalen gofal cymdeithasol plant.
Os yw’r plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylech ffonio’r heddlu yn syth ar 999.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi roi gwybod i ni am y trefniadau?
Bydd y gwasanaethau plant yn:
- ymweld â’r gofalwr a’r plentyn i siarad â nhw a gwirio fod popeth yn iawn
- trafod y cyngor a’r cymorth ychwanegol y gallwn ni neu sefydliadau eraill eu darparu
- sicrhau bod gan bawb y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wirio bod y gofalwr ac aelodau eraill o’r teulu’n addas i ofalu am y plentyn – bydd hyn yn cynnwys gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd / yr heddlu
- gwirio bod cartref y plentyn yn ddiogel
Yn dilyn hyn, bydd yn rhaid i ni benderfynu p’un a yw’r trefniadau’n addas ar gyfer y plentyn neu beidio. Nid oes rhaid i’r trefniadau fod yn berffaith, ond gallwn ddod â’r trefniadau i ben os nad ydym ni’n credu eu bod er budd pennaf y plentyn.
Fel rhiant neu ofalwr maeth preifat, gallwch wneud apêl i lys yr ynadon os ydych yn anghytuno.
Fel rhan o’r trefniadau, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i ofalwyr wneud pethau arbennig, er enghraifft, sicrhau bod y plentyn yn cadw mewn cysylltiad â’u rhieni neu sicrhau bod anghenion diwylliannol y plentyn yn cael eu bodloni. Bydd hefyd arnom ni angen ymweld â’r gofalwr a’r plentyn yn rheolaidd i sicrhau fod popeth yn mynd dda.
Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n rhoi gwybod i chi?
Fel gofalwr, byddwch yn colli allan ar gyngor a chymorth gennym ni a sefydliadau eraill a allai eich helpu.
Os ydych yn rhiant sy’n caniatáu i’ch plentyn dderbyn gofal gan ofalwr maeth preifat neu os ydych yn ofalwr maeth preifat ac heb roi gwybod i ni am hyn, rydych yn torri’r gyfraith. Fe allwch gael eich erlyn a’ch dirwyo.