Does dim lle i gosb gorfforol yng Nghymru fodern
Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Gwnaed hyn yn anghyfreithlon ar 21 Mawrth, 2022 mewn moment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.
Beth yw cosb gorfforol?
Mae llawer o wahanol fathau o gosbi corfforol.
Gall fod ar ffurf rhoi pelten, pwniad, slapio ac ysgwyd - ond mae mathau eraill hefyd.
Mae’n amhosib rhestru pob math o gosb gorfforol oherwydd gall fod yn unrhyw ddull o gosbi plentyn gan ddefnyddio grym corfforol.
Mae ymchwil yn awgrymu y gallai unrhyw fath o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.
Beth mae’r gyfraith yn ei olygu?
- Mae cosbi corfforol o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru.
- Mae gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
A yw’r gyfraith yn berthnasol i bawb yng Nghymru?
Ydi, mae’n berthnasol i bawb - rhieni neu unrhyw un sy’n gyfrifol am blant tra bo’r rhieni yn absennol.
Fel gyda chyfreithiau eraill, mae’n berthnasol i ymwelwyr â Chymru hefyd.
Mae cosbi corfforol hefyd yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant, cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant.
Beth sy’n digwydd os yw rhywun yn cosbi plentyn yn gorfforol?
Bydd unrhyw un sy’n cosbi plentyn yn gorfforol:
- yn torri’r gyfraith
- mewn perygl o gael ei arestio neu ei gyhuddo o ymosod
- efallai yn derbyn cofnod troseddol, fel gyda phob trosedd arall
Cyngor a chefnogaeth
Mae cyngor a chefnogaeth ar gael i unrhyw un sydd eu hangen, i’w helpu i ganfod ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant.
Mae cyngor a chymorth magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (dolen gyswllt allanol).
Mae yna hefyd raglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf (dolen gyswllt allanol).
Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn gweld plentyn yn cael ei gosbi’n gorfforol neu os ydw i’n poeni am blentyn?
Gallwch gysylltu â’r Un Pwynt Mynediad i Blant. Os ydych chi’n credu bod plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylech gysylltu â’r heddlu ar 999.