Beth ydi Cyflawni Newid Gyda’n Gilydd (Together Achieving Change/TAC)?
Mae Cyflawni Newid Gyda'n Gilydd (TAC) yn ffordd o drefnu a chydlynu cymorth ychwanegol i blant a phobl ifanc (rhwng 0-25 oed) a’u teuluoedd. Mae’r broses ar gael i bobl sydd ag amryw o anghenion ac sydd eisiau cymorth ataliol.
Tîm Cymorth TAC
Mae’r tîm cymorth yn cynnwys:
- Cydlynydd TAC
- Swyddogion TAC
- Swyddogion Gweinyddol
- Ymarferwyr Teulu Tîm o Amgylch y Plentyn
- Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Tîm o Amgylch y Plentyn
Pwy gaiff ddechrau’r broses?
Gall unrhyw un sy'n gweithio gyda phlentyn, person ifanc neu deulu gychwyn y broses (e.e. athro, gweithiwr cymdeithasol addysg, nyrs ysgol, gweithiwr ieuenctid, cwnselydd neu aelod o’r tîm iechyd meddwl cymunedol neu’r Uned Hawliau Lles).
Gall person ifanc neu riant hefyd ofyn am gael dechrau proses TAC drwy gysylltu â’r tîm Cymorth yn uniongyrchol.
Sut mae'n gweithio?
Bydd y person sydd wedi siarad efo’r teulu/unigolyn ynglŷn â’r broses yn gorfod derbyn eu caniatâd i lenwi Ffurflen Asesu’r Teulu ar y Cyd (JAFF). Bydd y ffurflen yn amlygu’r meysydd y mae ar y teulu/unigolyn angen cymorth ychwanegol gyda nhw.
Ar ôl llenwi a dychwelyd y ffurflen hon i’n tîm, bydd Swyddog TAC yn cael ei enwi ar gyfer y teulu/unigolyn.
Bydd y swyddog, y teulu neu’r unigolyn a phawb sy’n gweithio gyda nhw yn cwrdd ac yn rhan o dîm TAC.
Cyfarfodydd TAC
Y Cydlynydd neu’r Swyddog TAC sy’n cadeirio’r cyfarfodydd. Ni fydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal os nad yw'r teulu/unigolyn yn gallu bod yn bresennol, a bydd y cyfarfod yn cael ei aildrefnu ar ddiwrnod ac amser sy’n gyfleus. Bydd trafodaeth yn cael ei chynnal ynglŷn â pha gymorth ychwanegol y mae modd ei gynnig i’r teulu/unigolyn.
Ar ddiwedd y cyfarfod gofynnir i bawb a ydyn nhw’n cytuno â’r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud. Wedyn, bydd cynllun gweithredu yn cael ei lunio i nodi pwy sy’n gwneud beth i helpu’r teulu/unigolyn. Bydd y cynllun gweithredu yn cael ei lofnodi gan y teulu/unigolyn a bydd yn cael ei adolygu mewn cyfarfodydd dilynol.
Sylwadau am broses TAC
Cysylltwch â’r tîm
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, ffoniwch ein tîm Cymorth TAC ar 01978 295385.