Rydyn ni'n rhentu garejys yn Sir Wrecsam - mae safleoedd garejys ar y rhan fwyaf o'n stadau tai. Os ydych chi’n breswylydd i’r cyngor fe gewch flaenoriaeth wrth ymgeisio, er gall preswylwyr tai preifat wneud cais hefyd.
Cysylltwch â’ch Y Tîm Dyraniadau os oes gennych chi ddiddordeb rhentu garej yn eich ardal chi.
Fel arfer byddwn yn dyrannu garejys ar sail y cyntaf i'r felin. Sylwch fod yna restr aros mewn rhai ardaloedd.
Sut i dalu rhent eich garej
Os ydych yn breswylydd i’r cyngor, mae’r rhent garej yn cael ei dalu’n wythnosol gyda’ch rhent eiddo. Ni fyddwn yn gadael i chi rentu garej os oes gennych ôl-ddyledion rhent.
Os nad ydych yn breswylydd i’r cyngor, byddwch yn derbyn anfoneb yn chwarterol, fydd yn egluro’r ffyrdd y gallwch dalu.
I dalu ar-lein, dewiswch ‘Anfonebau Dyledwyr’ o’r dewis ‘Pob siop’ ar ein e-storfa (gan roi eich rhif anfoneb fel y cyfeirnod):
Defnydd o garejys
Efallai y byddwn yn cymryd garej oddi arnoch os ydych yn ei defnyddio at unrhyw ddiben heblaw storio car neu feic modur.
Sut ydw i’n dod â thenantiaeth garej i ben?
Mae’n rhaid i chi roi o leiaf wythnos o rybudd i ni yn ysgrifenedig. Byddwn wedyn yn ysgrifennu atoch chi i gadarnhau’r dyddiad dod i ben a phryd y dylech chi roi’r allweddi yn ôl i ni.