Faint fydd rhaid i mi ei dalu?

Mae’n dibynnu ar fand eich eiddo, sy’n cael ei benderfynu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) sy’n prisio pob eiddo domestig yng Nghymru a Lloegr ac yn gosod eiddo mewn un o naw band. Mae’r VOA yn asiantaeth annibynnol ac nid yw’n rhan o’r Cyngor.

Mae’r VOA wedi cyfrifo gwerth eich band ar sail prisiau eiddo ar 1af Ebrill 2003. Gelwir hwn yn ‘ddyddiad prisio’. Mae’r dyddiad gosod yn sicrhau bod pob eiddo yn cael ei asesu ar amser penodol, gan sicrhau system decach i bawb.

Mae’r VOA yn cymryd i ystyriaeth maint, oedran, cymeriad a lleoliad eich eiddo a data gwerthiant o amgylch y dyddiad prisio i benderfynu ar y band cywir. Os adeiladwyd eich eiddo ar ôl 1af Ebrill 2003, bydd y VOA yn gosod eich eiddo mewn band yn seiliedig ar beth fyddai ei werth ar y dyddiad hwnnw yn defnyddio data gwerthiant cymharol.

Mae gan bob band eiddo ystod o werthoedd ac mae’r swm yr ydych yn ei dalu mewn gwirionedd yn dibynnu ar y band y mae’ch eiddo wedi’i osod ynddo. Mae’r bandiau hyn yn amrywio o ‘A i I’ - ‘A’ yw’r gost isaf ac ‘I’ yw’r gost uchaf. Dangosir y bandiau eiddo a gwerthoedd ar gyfer Cymru yn y tabl isod.

Sut caiff fy eiddo ei brisio?
BandYstod o werthoedd
AO dan £44,000
B£44,001 - £65,000
C£65,001 - £91,000
D£91,001 - £123,000
E£123,001 - £162,000
F£162,001 - £223,000
G£223,001 - £324,000
H£324,001 - £424,000
I£424,001 a throsodd

Os ydych yn teimlo fod eich eiddo yn y band anghywir, neu os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am sut y cafodd eich eiddo ei brisio, ewch i wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (dolen gyswllt allanol).

Bandiau Treth y Cyngor 2024/2025

Ar beth mae fy arian yn cael ei wario?
2023/2024 Gwariant Crynswth £Gwasanaeth2024/2025 Gwariant Crynswth £
55,144,769Amgylcheddol a Thechnegol56,672,324
56,668,188Tai a’r Economi44,834,708
120,385,049Gwasanaethau Cymdeithasol131,886,069
155,217,033Plant a phobl ifanc157,171,495
31,480,698Gwasanaethau Corfforaethol Canolog ac eraill38,167,848
406,829,753Cyfanswm yr holl wasanaethau428,732,444
159,650Cymorth Diamod159,650
409,989,403Cyfanswm Cyllid y Cyngor428,892,094
60,457,000Cyfrif Refeniw Tai65,785,000
467,446,403Cyfanswm Gwariant Crynswth494,677,094
O le mae’r arian yn dod?
2023/2024 Incwm £O ble daw’r arian2024/2025 Incwm £
104,088,216Ffioedd,taliadau a grantiau110,222,209 
 
60,457,000Renti Tai65,785,000
224,621,164Cyllid Llywodraeth Cymru231,962,589
389,166,380Cyfanswm Incwm407,969,798 
78,280,023Yr hyn sydd ar ôl i’w dalu gan y Dreth Gyngor86,707,296 
 
146,254Llai’r swm a godir o dreuliau arbennig176,300
78,133,789Swm a godir gan y Dreth Gyngor gyffredinol86,530,996
53,836Rhennir â: Sail Trethi (cyfwerth â Band D)54,260
1,451.33Tâl cyffredinol ym Mand D1,594.75