Mewn etholiad cyffredinol byddwch yn pleidleisio dros bwy yr ydych am iddynt eich cynrychioli yn Senedd y DU. Y person yma fydd eich Aelod Seneddol (AS).

Mae Aelodau Seneddol yn cael eu hethol gan ddefnyddio’r system Cyntaf i'r Felin. Rydych chi'n pleidleisio unwaith dros ymgeisydd yn eich etholaeth a'r ymgeisydd sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau fydd eich Aelod Seneddol. 

Mae 650 o Aelodau Seneddol yn Senedd y DU.

Mae pob un yn cynrychioli etholaeth seneddol. Fel preswylydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, byddwch yn pleidleisio i ethol Aelod Seneddol mewn un o dair etholaeth: 

  • Wrecsam
  • Dwyrain Clwyd
  • Sir Drefaldwyn a Glyndwr

Sylwer: Mae ffiniau etholaethau yn y DU yn newid. Bydd set newydd o ffiniau ar gyfer etholaethau San Steffan yn cael eu defnyddio yn etholiad cyffredinol y DU 2024.

Gallwch gael gwybod a yw eich etholaeth wedi newid ar wefan Senedd y DU.

Hysbysiadau

Beth mae eich Aelod Seneddol yn ei wneud?

Mae eich Aelod Seneddol yn cynrychioli eich buddiannau a’ch pryderon yn Nhŷ’r Cyffredin. 

Mae Aelodau Seneddol yn ystyried a gallant gynnig deddfau newydd yn ogystal â chodi materion sydd o bwys i chi. Mae hyn yn cynnwys gofyn cwestiynau i weinidogion y llywodraeth am faterion cyfoes gan gynnwys y rhai sy'n effeithio ar etholwyr lleol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Senedd y DU.

Pwy sy’n sefyll yn yr etholiad? 

Mae’r datganiad o’r unigolion a enwebwyd yn rhestru’r holl ymgeiswyr sy’n sefyll yn Wrecsam.

Os yw eich ward yn rhan o etholaeth Dwyrain Clwyd, ewch i Cyngor Sir y Fflint: Etholiad Seneddol y DU - Dydd Iau, 4 Gorffennaf 2024 (dolen gyswllt allanol)

Os yw eich ward yn rhan o etholaeth Trefaldwyn a Glyndŵr, ewch i Cyngor Powys: Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel (dolen gyswllt allanol)

I gadarnhau ym mha etholaeth y mae’ch ward chi, ewch i’r dudalen ynglŷn ag etholiadau cyfredol.
 

Sut ydw i’n pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol?

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy (yn cynnwys gwybodaeth am ID pleidleiswyr) ar gael ar dudalen etholiadau a phleidleisio

Dyddiadau allweddol i etholwyr

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio: Dydd Mawrth 18 Mehefin 2024

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pleidlais drwy'r post newydd neu wedi’u haddasu: Dydd Mercher 19 Mehefin 2024 (cyn 5pm).

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr: Dydd Mercher 26 Mehefin 2024 (cyn 5pm).

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau dirprwy: Dydd Mercher 26 Mehefin 2024 (cyn 5pm).

Rheolau newydd ar gyfer yr etholiad cyffredinol hwn 

ID Pleidleisiwr

Am y tro cyntaf mewn etholiad cyffredinol bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID llun yn yr orsaf bleidleisio. Bydd hyn yn effeithio ar bawb sy’n pleidleisio eu hunain neu’n pleidleisio drwy ddirprwy. 

Rheolau ymdrin â phleidleisiau post 

Bydd eich pleidlais drwy’r post yn cael ei gwrthod os na chaiff ei dychwelyd yn y modd cywir. 

Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i chi ddychwelyd eich pleidlais drwy’r post yw trwy ei phostio yn un o flychau postio’r Post Brenhinol, gan ddefnyddio’r amlen barod a ddarperir (amlen B). 

Cofiwch adael digon o amser i’ch pleidlais drwy’r post ein cyrraedd ni.  Mae’n rhaid iddynt gyrraedd y swyddog canlyniadau lleol cyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais. 

Os ydych chi’n dychwelyd eich pleidlais bost â llaw, er enghraifft i orsaf bleidleisio neu Neuadd y Dref, Wrecsam (mae’r cyfeiriad ar amlen B), mae nawr angen i chi lenwi ffurflen.  Bydd ein haelodau staff yn eich helpu chi gyda hyn. 

Gallwch ddychwelyd eich pleidlais bost eich hun a hyd at 5 o rai eraill fesul etholiad (cyfanswm o 6). 

Os ydych chi’n ymgyrchydd gwleidyddol, dim ond eich pleidlais bost eich hun y gallwch ei dychwelyd, a phleidleisiau post unrhyw berthnasau agos neu unigolyn rydych chi’n gofalu amdanynt yn rheolaidd. 

Peidiwch â gadael eich pleidlais bost ym mlwch post unrhyw un o swyddfeydd y Cyngor. 
Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau sy’n dod i rym yn yr etholiad hwn ar gael ar y dudalen Newidiadau i sut rydych yn pleidleisio.

Gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr

Mae arweiniad ac adnoddau helaeth i ymgeiswyr ac asiantwyr ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol (dolen gyswllt allanol). Mae hyn yn cynnwys:

  • yr hyn sydd arnoch angen ei wybod cyn sefyll mewn etholiad
  • gwariant yr ymgeiswyr
  • ymgyrchu 
  • enwebiadau
  • pleidleisiau post
  • diwrnod pleidleisio
  • dilysu a chyfrif
  • ar ôl yr etholiad

Dyddiadau allweddol:

  • Hysbysiad o etholiad: Dydd Gwener 31 Mai 2024
  • Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantiaid (cyn yr enwebiadau): Dydd Llun 2 Mehefin 2024 (i’w gadarnhau) 
  • Dosbarthu papurau enwebu: Dydd Llun 3 Mehefin 2024 – dydd Gwener 7 Mehefin 2024 (rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith)
  • Dyddiad cau ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl: Dydd Gwener, 7 Mehefin 2024 (cyn 4pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer hysbysiad penodiad cynrychiolwyr etholiadol: Dydd Gwener 7 Mehefin 2024 (cyn 4pm)
  • Datganiad am y Sawl a Enwebwyd: Dydd Gwener 7 Mehefin 2024 (cyn 5pm)
    Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantiaid (ar ôl yr enwebiadau): i’w chadarnhau 
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru: Dydd Mawrth 18 Mehefin 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn neu addasu ceisiadau pleidlais drwy'r post: Dydd Mercher 19 Mehefin 2024 (cyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr: Dydd Mercher 26 Mehefin 2024 (cyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau dirprwy: Dydd Gwener 26 Mehefin 2024 (cyn 5pm)
  • Cyhoeddi Hysbysiad Pleidlais: Dim hwyrach na dydd Mercher 7 Mehefin 2024
  • Diwrnod y Bleidlais: Dydd Iau 4 Gorffennaf 2024
  • Proses ddilysu a chyfrif dros nos ar ôl i'r bleidlais gau ddydd Iau 4 Gorffennaf, 2024