Lle cyfeirir atom ‘ni’ ar y dudalen hon, mae’n sôn am Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei rôl fel awdurdod lleol.

Eglurhad o’n hamcanion fel darparwr addysg – sy’n rhoi’r cefndir i’n hegwyddorion ADY.

Ethos – Ysgolion cynhwysol

Mae ymgynnwys yn hawl sylfaenol a dylid amcanu i groesawu pawb, beth bynnag eu hil, oedran, rhywedd, anabledd, credoau crefyddol a diwylliannol a chyfeiriadedd rhywiol. 

Dylai ysgol gynhwysol wneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u cefnogi, waeth beth yw’r amgylchedd maent ynddo.  Mae hynny’n cynnwys rhoi sylw arbennig i’r ddarpariaeth ar gyfer gwahanol grwpiau o ddisgyblion   yn yr ysgol a’r hyn y maent yn ei gyflawni, yn ogystal ag unrhyw ddysgwyr sydd mewn perygl o gael eu dadrithio a’u gwahardd. 

Gall ysgol neu ddosbarth cynhwysol ond fod yn llwyddiannus os fydd yr holl ddisgyblion yn teimlo yn rhan wirioneddol o gymuned yr ysgol. Yr unig ffordd o sicrhau hynny yw cael trafodaeth agored a gonest ynglŷn â gwahaniaethau, a deall a pharchu pobl o bob gallu a chefndir.

Mae pob person yn cael ei werthfawrogi fel unigolyn

Dylid delio gydag amrywiol anghenion plant a phobl ifanc yn sensitif ac yn effeithiol. Rydym yn credu os yw pob plentyn yn derbyn cwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol mae hyn yn gwneud yn siŵr bod:

  • hunan-barch a hyder yn cael eu datblygu 
  • agwedd gadarnhaol yn cael ei datblygu

Disgyblion gydag ADY yn cael eu cynnwys yn llwyddiannus

O fewn ein hysgolion, mae pob athro yn athro pob disgybl. Mae hyn yn cynnwys disgyblion gydag ADY, yn ogystal â’r sawl ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl.

Hybu a chynnal dull ysgol gyfan ar gyfer lles

Mae’r dull hwn yn cydnabod y cysylltiadau cryf rhwng lles a deilliannau i’n plant a phobl ifanc.

Mae pob plentyn yn gyfartal, yn cael ei werthfawrogi ac yn unigryw

Rydym yn anelu i ddarparu amgylchedd ble mae pob disgybl yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu ffynnu. Byddwn yn ymateb i unigolion mewn ffyrdd sy’n cymryd i ystyriaeth eu hamrywiol brofiadau bywyd ac anghenion penodol.

Pob disgybl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu gorau

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu addysg sy’n caniatáu i holl ddisgyblion wneud cynnydd, fel eu bod yn:

  • dod yn unigolion hyderus sy’n byw bywydau llawn 
  • trawsnewid yn llwyddiannus i fod yn oedolyn

Addysg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn 

Rydym wedi ymrwymo i roi sylw i’r hyn sy’n bwysig i bob plentyn.

Hybu a chefnogi hawliau plant

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau hawliau pob plentyn, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.