Cynnwys preswylwyr
- Rhaid i ni ofyn am eich barn am unrhyw gynlluniau sydd gennym mewn perthynas â thai a allai effeithio'n fawr arnoch. Er enghraifft, byddwn yn trafod unrhyw waith moderneiddio neu wella yr ydym yn bwriadu ei wneud i'ch cartref neu'ch ardal gyda chi. Byddwn yn eich cynnwys chi neu’ch grwpiau preswylwyr mewn trafodaethau ynglŷn â materion tai lleol.
- Mae’n rhaid i ni ofyn am eich barn am unrhyw newidiadau a fwriedir eu gwneud i’r contract meddiannaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig os bydd y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith.
- Mae gan sefydliadau preswylwyr yr hawl i gymryd yr awenau a rheoli eu cartrefi. Gelwir hyn yn ‘Hawl i Reoli’. Mae’r cynllun yn galluogi sefydliadau preswylwyr i gynnal gwasanaethau yn hytrach na ni. Gofynnwch i’ch swyddfa dai leol am fwy o fanylion.
- Fel aelod o'r cyhoedd, mae gennych hawl i fynd i wrando ar gyfarfodydd ein Bwrdd Gweithredol a'n pwyllgorau archwilio. Mae'r cyfarfodydd hyn yn pen derfynu sut mae'r gwasanaeth tai yn cael ei redeg a'i reoli. Mae gennych hawl i weld y cofnodion o'r cyfarfod hefyd. Cewch fwy o wybodaeth trwy gysylltu â Neuadd y Dref,Wrecsam neu trwy ofyn yn eich swyddfa dai leol.
- Eich hawl i gael gwybodaeth. Bydd modd ichi weld gwybodaeth benodol a gedwir mewn ffeil ac sy’n ymwneud â’ch contract meddiannaeth yn gyffredinol. Gellir codi tâl am hynny, fodd bynnag.
Symud i gartref arall
Eich hawliau
- Os ydych chi’n ddeiliad contract diogel, mae gennych yr hawl i gyfnewid eich cartref (sef cydgyfnewid) gyda’n deiliaid contract diogel eraill, deiliaid contract cymdeithas tai neu ddeiliaid contract cyngor arall.
- Fel deiliad contract, mae gennych yr hawl i wneud cais i symud i dŷ cyngor arall.
Gadael eich cartref, dod a’ch contract i ben, marwolaeth deiliad contract
Eich hawliau
- Os byddwch yn marw, mae’n bosibl y byddwn yn trosglwyddo eich contract meddiannaeth i rywun arall. Gelwir hyn yn hawl olyniaeth.
- Ni ddylech neilltuo eich contract meddiannaeth i unigolyn arall. Fodd bynnag, gell wch wneud hynny trwy gyfnewidiad cilyddol neu orchymyn llys.
Yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni'n gyntaf.
Hawl i etifeddu
Os bydd deiliad contract yn marw, efallai y bydd yn bosibl i unigolyn arall gael contract am yr eiddo.
Gall olyniaeth ddigwydd pan mae’r unig ddeiliad contract yn marw gan adael priod, partner sifil, partner neu aelod cymwys arall o’r teulu yn yr eiddo.
Mae’r gyfraith yn caniatáu hyd at 2 olyniaeth. Gellir cael ‘olynydd â blaenoriaeth’ ac ‘olynydd wrth gefn’.
Olynydd â blaenoriaeth
Dyma briod neu bartner sifil y deiliad contract cyfredol. Bydd y contract yn cael ei basio ymlaen iddynt, ni waeth os oes unrhyw aelodau eraill o’r teulu hefyd yn byw yn yr eiddo.
Olynydd wrth Gefn
Pan mae olynydd â blaenoriaeth yn marw neu os nad oes olynydd â blaenoriaeth yn byw yn yr eiddo ar yr adeg honno. Gall y contract gael ei basio i aelod o’r teulu neu ofalwr. Maent yn olynydd wrth gefn.
Efallai nad fydd olynydd wrth gefn yn gallu aros yn yr eiddo presennol; os yw’n fwy nag anghenion yr unigolyn, er enghraifft.
Yn yr achosion hyn, bydd staff yn gweithio gyda’r unigolyn sydd ar ôl i drefnu llety amgen addas.
Os ydych eisiau gwneud cais am hawl i olyniaeth, bydd arnoch angen cwblhau ‘ffurflen gais i newid contract’ (cysylltwch â’ch swyddfa dai leol).
Os fydd cyd-ddeiliad contract yn marw
Pan fo cyd-ddeiliad contract yn marw, mae eu cysylltiad â’r contract yn cael ei basio’n awtomatig i’r cyd-ddeiliad (cyd-ddeiliaid) contract sydd yn fyw trwy “oroesedd”. Nid yw’n olyniaeth ac mae’r cyd-ddeiliad (cyd-ddeiliaid) contract sy’n fyw yn parhau i fod yn ddeiliaid contract. Nid yw eu hawliau yn cael eu heffeithio.
Eich cyfrifoldebau
- Rhaid i chi roi gwybod i ni'n ysgrifenedig o leiaf pedair wythnos cyn i chi adael eich cartref.
- Rhaid i'r rhybudd pedair wythnos ddod i ben ar ddydd Llun. Rhaid ichi ddychwelyd y goriadau i’ch cartref i’ch swyddfa ystâd leol cyn 4.30pm ar y dyddiad y bydd y contract meddiannaeth yn dod i ben. Os byddwch yn dychwelyd eich allweddi ar ôl y dyddiad hwn, byddwn yn codi tâl arnoch sy'n hafal i'r rhent wythnosol ar gyfer eich cartref hyd nes y byddwch yn dychwelyd yr allweddi neu y bydd y cloeon yn cael eu newid, pa bynnag un sy'n gyntaf. Os bydd angen i ni newid y cloeon byddwch yn gyfrifol am dalu'r costau hyn hefyd.
- Rhaid i chi sicrhau fod yr holl rent a thaliadau wedi’u talu hyd at y dyddiad y mae’r contract yn dod i ben.
- Rhaid i chi adael y cartref a'r gosodion yr ydym wedi'u darparu mewn cyflwr da pan fyddwch yn gadael (yn amlwg, nid ydym yn cyfrif unrhyw draul a gwisgo). Os ydynt ar goll neu mewn cyflwr gwael, byddwn yn codi tâl arnoch i amnewid i drwsio'r eitem. Ni ddylech dynnu offer nwy na phoptai.
- Ni ddylech adael i unrhyw un arall fyw yn y cartref ar ôl i chi adael. Os byd dwch yn gwneud hynny byddwn yn eu troi allan o'r cartref ac yn codi tâl arnoch am y costau sy'n gysylltiedig â'u troi allan o'r cartref ac am y defnydd parhaus o'r cartref. Ni allwch drosglwyddo eich contract meddiannaeth i unrhyw un arall heb ganiatâd ysgrifenedig gennym ni.
- Pan fyddwch yn gadael eich cartref am ba bynnag reswm, rhaid i chi adael y cartref hwnnw a'r ardd yn glir rhag sbwriel, dodrefn ac eiddo arall ac mewn cyflwr glân. Byddwn yn codi tâl arnoch am glirio eitemau a glanhau'r tŷ.
- Pan fydd eich contract meddiannaeth yn dod i ben, os ydych yn gadael unrhyw eitem yn y cartref byddwn yn cymryd nad ydych ei eisiau. Gallwn gael gwared ar unrhyw beth y byddwch yn ei adael mewn modd yr ydym ni'n ei ystyried yn briodol. Os byddwn yn gwerthu unrhyw eitemau, gallem ddefnyddio unrhyw adenillion i leihau unrhyw daliadau sy'n ddyledus i ni neu i dalu'r gost o storio neu gael gwared ar unrhyw eitemau. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eitemau sy'n cael eu gadael yn eich cartref.
- Os ydych yn gyd-ddeiliaid contract, gall unrhyw un ohonoch ddod â’r contract i ben drwy roi rhybudd o bedair wythnos. Os ydych am ddod â’ch cyfran chi o’r contract i ben yn unig, gallwch wneud hyn drwy roi rhybudd o 4 wythnos i ni a gall y deiliad contract arall gadw eu hawl i feddiannu’r eiddo.
- Os byddwch yn gadael eich cartref, fe gymerwn yn ganiataol (yn dilyn ymchwiliad) eich bod wedi dod â’r contract i ben a byddwn wedyn yn rhentu eich cartref i rywun arall. Byddwn yn codi tâl arnoch am newid y cloeon a darparu allweddi newydd.
- Rhaid i chi roi cyfeiriad post newydd i ni er mwyn i ni sicrhau bod eich post yn cael ei ailgyfeirio. Ni fyddwn yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw bost a gyfeirir atoch chi sy'n cael ei anfon i'r eiddo ar ôl i chi ei adael.
Gwasanaethau cefnogi pobl a thai cysgodol
- Efallai eich bod yn cael gwasanaethau cymorth ychwanegol y mae cefnogi pobl yn eu darparu. Os yw hyn yn gymwys i chi, bydd atodlen ynghlwm eich contract meddiannaeth. Gallai'r gwasanaethau hyn newid.
- Os ydych yn cytuno i gael y gefnogaeth hon, byddwn yn eich asesu fel bod angen gwasanaethau Cefnogi Pobl arnoch. Fodd bynnag, nid oes raid i chi barhau i dderbyn y gwasanaethau hynny. Os yw diffyg cefnogaeth yn peri ichi fynd yn groes i’r contract meddiannaeth hwn, fodd bynnag, gallwn gymryd camau i adennill y contract.
Gwarchod data
- Fe ddefnyddiwn eich gwybodaeth bersonol (yr hyn a ddarparwch ar y ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth arall a roddwch i ni yn y dyfodol) at bob diben mewn perthynas â’ch contract meddiannaeth.
- Gallwn ryddhau'r wybodaeth hon i ddarparwyr gwasanaethau ac asiantau sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan. Gallwn wirio gyda sefydliadau eraill pa mor gywir yw'r wybodaeth yr ydych wedi'i darparu a rhannu gwybodaeth gyda nhw, er enghraifft adrannau'r llywodraeth, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, yr is-adran Tai â Chefnogaeth, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill, ymgynghorwyr gofal iechyd, cymdeithasol a lles a sefydliadau eraill ac ati.
- Wrth lofnodi’r cytundeb meddiannaeth hwn rydych yn cytuno i ni brosesu data personol sensitif (er enghraifft, gwybodaeth am eich iechyd, hil neu darddiad ethnig a chofnodion troseddol).
- Mae gennych hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth hon (byddwn yn codi tâl am hyn) a chywiro unrhyw anghysonderau ynddi.