Mae’r protocol hwn yn ymdrin â’r camau gweithredu posibl y gallem ni (Cyngor Wrecsam fel yr awdurdod lleol) eu cymryd i orfodi rheoliadau’r Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol.
Gallwch ddarganfod beth mae rheoliadau’r Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol yn ei olygu i landlordiaid ar ein tudalen effeithlonrwydd ynni (eiddo a rentir yn breifat).
Llythyr ymdrin
Fe fyddwn yn anfon llythyrau at eiddo graddfa ‘G’ ac wedi hynny eiddo graddfa ‘F’.
Fe fydd y llythyr yn cynghori landlordiaid sy’n rhentu eiddo is na’r safon eu bod yn torri’r rheoliadau.
Fe fydd landlordiaid yn cael cyfanswm priodol o amser, fel arfer 14 diwrnod, i ymateb i’r llythyr. Fe allant un ai ddangos tystiolaeth fod ganddynt erbyn hyn Dystysgrif Perfformiad Ynni sy’n cydymffurfio, neu fe allant osod cynllun i gyflawni’r lefel sy’n ofynnol o ran effeithlonrwydd ynni.
Hysbysiad cydymffurfio
Os na fyddwn yn derbyn unrhyw ohebiaeth nac unrhyw gyfathrebu gan y landlord o fewn 14 diwrnod yna fe fyddwn yn cyflwyno hysbysiad cydymffurfio a fydd yn:
- gofyn yn ffurfiol i’r landlord gyflwyno dogfennau o fewn 35 diwrnod
- cynghori os ydynt yn parhau i fod yn torri’r rheoliadau y bydd ymchwiliad yn dilyn ac yr ystyrir cymryd camau gorfodi ffurfiol.
Fe fydd yr hysbysiad cydymffurfio o gymorth i benderfynu a yw’r rheoliadau wedi eu torri a’r cam nesaf o ran gorfodi.
Fe ellir cyflwyno hysbysiad cydymffurfio hyd at 12 mis wedi unrhyw amheuaeth fod y rheoliadau wedi eu torri.
Fe all hysbysiad cydymffurfio ofyn am wybodaeth am:
- y Dystysgrif Perfformiad Ynni a oedd yn ddilys ar gyfer y cyfnod pan oedd yr eiddo yn cael ei osod
- y cytundeb tenantiaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer gosod yr eiddo
- unrhyw welliannau a wnaed o ran effeithlonrwydd ynni
- unrhyw adroddiadau cyngor ar ynni ar gyfer yr eiddo
- unrhyw ddogfennau perthnasol eraill
Gall unrhyw achos o beidio â chydymffurfio neu fethu ag ymgysylltu â ni ar y cam hwn arwain at gyfeirio’r eiddo at ein Tîm Safonau Tai er mwyn cynnal archwiliad y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
Hysbysiad cosb a/neu gyhoeddi manylion y tramgwydd
Os ydym yn cadarnhau fod eiddo yn cael ei osod (neu wedi ei osod) gan dorri’r rheoliadau, fe all swyddogion gyflwyno hysbysiad cosb ariannol hyd at 18 mis wedi i’r rheoliadau gael eu torri a/neu gyhoeddi manylion yn ymwneud â thorri’r rheoliadau am o leiaf 12 mis.
O dan y rheoliadau, fe allwn gyhoeddi rhai manylion yn ymwneud â’r achos o dorri’r rheoliadau gan y landlord ar ran sy’n hygyrch i’r cyhoedd o Gofrestr Eithriadau’r Sector Rhentu Preifat.
Cosbau
Mae gennym ddisgresiwn i bennu cyfanswm y gosb, hyd at yr uchafswm a osodir gan y rheoliadau.
Mae uchafswm y cosbau fel a ganlyn:
- hyd at £2,000 a/neu gosb cyhoeddi am osod eiddo i’w rentu nad yw’n cydymffurfio am lai na 3 mis
- hyd at £4,000 a/neu gosb cyhoeddi am osod eiddo i’w rentu nad yw’n cydymffurfio am 3 mis neu fwy
- hyd at £1,000 a/neu gyhoeddi am ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar Gofrestr Eithriadau’r Sector Rhentu Preifat
- hyd at £2,000 a/neu gyhoeddi am fethu â chydymffurfio gyda hysbysiad cydymffurfio
Mae uchafbwynt y symiau cosb yn weithredol i bob eiddo ac i bob achos o dorri’r rheoliadau. Y swm uchaf y gellir ei ddirwyo i bob eiddo yw cyfanswm o £5,000.
Yn dilyn yr hysbysiad cosb
Fe all y landlord wneud un o’r canlynol:
A. derbyn yr hysbysiad cosb a thalu’r gosb.
B. anghytuno gyda’r hysbysiad a gofyn am adolygiad o benderfyniad yr hysbysiad cosb.
Os ydym yn adolygu’r penderfyniad
Fe fyddwn un ai:
A. yn gwneud penderfyniad o blaid y landlord ac yn dileu’r gosb.
B. yn cadarnhau’r hysbysiad cosb.
Os caiff yr hysbysiad cosb ei gadarnhau
Gall y landlord wedyn un ai:
A. talu’r gosb.
B. dewis peidio â thalu’r gosb, yn yr achos hwnnw mae’n bosibl y byddwn yn cymryd camau i adennill y ddyled – fodd bynnag fe all y landlord barhau i gyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Os yw’r landlord yn cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf
Fe fydd y tribiwnlys yn adolygu’r penderfyniad ac un ai:
A. yn gwneud penderfyniad o blaid y landlord ac yn dileu’r gosb.
B. yn gwrthod apêl y landlord ac yn cadarnhau’r gosb.
Os yw’r tribiwnlys yn cadarnhau’r gosb
Gall y landlord wedyn un ai:
A. talu’r gosb.
B. dewis peidio â thalu’r gosb, yn yr achos hwnnw mae’n bosibl y byddwn yn cymryd camau i adennill y ddyled.